fbpx

Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid: Cynlluniau ar gyfer Wythnos Werdd Fawr

31 Awst, 2022
Gan Poppy Stowell, Youth Climate Ambassador

Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid: Cynlluniau ar gyfer Wythnos Werdd Fawr 

Treuliodd Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru ran gyntaf y deuddeg mis diwethaf yn canolbwyntio ar eu taith COP, yr effaith yr oeddent am ei gael, a sut y gallent ei gyflawni. Roedd hyn yn golygu eu bod, yn ystod eu pythefnos yn COP26 fel cynrychiolwyr y Parthau Gwyrdd a Glas, wedi llwyddo i atgyfnerthu llais ieuenctid Cymru a lleisiau Pobl Gynhenid ​​a’u taith hinsawdd.

Ers diwedd 2021, mae LHI wedi gosod eu blaenoriaethau blynyddol newydd, sef Anghyfiawnder Cymdeithasol a Hinsawdd, Ffoaduriaid Bioamrywiaeth a Hinsawdd ac wedi penderfynu ar y blaenoriaethau hyn trwy ganoli’r blaned a phobl sydd mewn perygl o ddioddef niwed oherwydd newid yn yr hinsawdd wrth wraidd eu penderfyniadau. Oherwydd hyn mae LHI wedi eu cyffroi i gynnal digwyddiad ar yr 2il  o Hydref fel rhan o’r Wythnos Werdd Fawr, gan drafod beth yw bod yn ffoadur hinsawdd a sut gallwn ni i gyd helpu.

Yn ogystal â’u gwaith, mae LHI wedi parhau i ymwneud yn helaeth â datblygu Climate Cymru a byddai’n annog pawb i ymgysylltu â’r rhwydwaith wych yma sydd wedi’i gynllunio i ddod â sector hinsawdd Cymru ynghyd i ganiatáu gweithredu unedig ac effeithiol!

Cymerwch olwg ar yr A-Y o syniadau ar gyfer cynnal digwyddiad Wythnos Fawr Werdd a’n hadnoddau dwyieithog yma.

Efallai hoffwch hwn hefyd

Gweld popeth

O’r Pridd i’r Enaid: Buddiannau Cudd Byw’n Gynaliadwy

Gwymon: Llanw o Newid i’n Dyfroedd Arfordirol

Gweld popeth

Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu

Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.

Ychwanegu eich llais
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.