fbpx

Gyrru neges o obaith i’n harweinwyr

7 Hydref, 2021
Gan Rhys Owen

Cwpl o wysnothau yn nôl, mi oedden ni yn Climate Cymru yn lwcus i fynd ar daith cerbyd trydan o gwmpas Cymru. Ar hyd y ffordd, ymweldwyd a phroseiectau gwych a oedd yn cael eu rhedeg gan rai o bobl mwyaf ysbrydol gan feddwl am fyw bywyd mwy gwyrdd a chynaliadwy. Yn y blog hwn, mi fyddaf yn trafod rhai o’r gweithredoedd mewn un o’r proseictau hyn sydd efallai yn gallu ysgogi pobl sydd efo mwy o rym gwleidyddol i wneud yn dda wrth ein cymunedau, a’r blaned.

Fy’m mhrofiad i

I lawer, mae COP26 yn gynhadledd sydd yn bell i ffwrdd o’r gwaith sydd yn cael ei wneud ar y llawr gan y bobl sydd yn teimlo’n angerddol dros bioamrywiaeth, cadwraeth amgylcheddol, ynni adnewyddadwy, cynaliadwyedd a.y.b. Gan fy mod wedi bod yn astudio gwleidyddiaeth yn y blynyddoedd ers COP21, sy’n waradwyddus enwog am ‘Gytundeb Hinsawdd Paris’ ac bod yn ymrywmol mewn grwpiau gwthio gwleidyddol fel Climate Cymru, rwy’n ymwybodol fy mod yn naïf i feddwl bod meddylfryd i ddilyn bywyd sy’n mwy cynaliadwy yn dod llaw mewn llaw a ymgysylltiad uniongyrchol a gwleidyddiaeth. Ni fyddai wedi gallu bod ymhellach o’r gwir. 

Ysgol Cae’r Gwenyn, a’r pŵer o weithredu, tu hwnt i’r gwleidyddol.

Mae gwneud gwahaniaeth i’ch bywyd yn enw’r hinsawdd dim yn gorfod dod yn uniongyrchol o’r awydd i ymrwymo eich hunain â grwpiau sy’n mynd i’r afael a’r hinsawdd. Yn ddealladwy, mae llawer o bobl ​​wedi ymddieithrio a gwleidyddiaeth. Fel y gwelais llaw cyntaf yn Ysgol Cae’r Gwenyn yn Wrecsam, y prif nod o ddysgu drwy natur oedd i geisio annog teimlad cynnes a gofalus rhwng y plant. Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy’r corffori balch o natur o gwmpas yr ysgol sy’n cael ei symboleiddio gan amryw o wenynau darluniadol sydd wedi cael eu peintio ar y waliau drwy’r ysgol sy’n dod yn wreiddiol o’i enw. Yn ystod yr ymweliad, dywedodd un o’r athrawon am un plentyn sydd efo problemau diffyg sylw a oedd wedi defnyddio ei amser cinio yn strocio petalau un o’r blodeuyn haul, enghraifft o ddatblygiad plentyn diolch i natur. Mae hi’n glir bod trwy mentrau fel hyn mae’r system addysg yn gallu dysgu lot am hogi teimlad ysbrydol a gofalus i’r amgylchedd o fewn plant ifanc a fydd gobeithio yn trawsnewid i’w glasoed a thu hwnt.

Yn anffodus, rydym yn ddibynnol iawn a’r ffigyrau gwleidyddol sydd aml yn teimlo ymhell i ffwrdd ac sustemau economaidd sydd yn hybu treuliant i addasu yn gyflym os rydym eisiau ein planed i barhau yn gyfanheddol dros y 2000 blwyddyn nesaf. 

Os rydym ni am weld COP sy’n gorffen efo strwythur deddfwriaethol am ddyfodol cynaliadwy sydd wir yn haeddu cael ei alw y ‘Gytundeb Hinswdd Caerliwelydd’, rwy’n annog arweinwyr y byd i edrych tuag at gweithredu sydd yn digwydd yn y gymuned fel math o ysbrydoliaeth ac mewn rhai ffyrdd esiampl o arweiniad o sut i wneud hynny. Fel dinasydd y byd, rwy’n teimlo bod y gynhadledd hon yn gyfle i’r byd ddod at ei gilydd a thrafod materion sydd angen eu hadferu cyn gyntaf sy’n phosib, fel sydd wedi cael ei arddangos yn glir gan adroddiad yr IPCC flwyddyn yma. Mae rhaid i ni ddatrys y broblem o newid hinsawdd ar y cyd trwy’r deimlad o obaith yn hytrach na anesmwythder. Wrth i effeithiau newid hinsawdd ddod yn fwy amlwg yn y gorllewin gyda chynnydd yn y nifer o ddigwyddiadau tywydd anghyson sy’n arwain at golled mewn bywyd ac effeithiau hirfaith yn y de byd-eang sy’n arwain at mewnfudo ar ran hinsawdd, mae hi’n hawdd cael eich siomi gan gyd o’r negyddiaeth sydd o’n cwmpas. Er hynny, mi wnaeth ein taith ar bobl mi ddaru ni gyfarfod ar hyd y ffordd atgoffa fi mae mewn gobaith rydym yn gwynebu adfyd yn orau ac mae’r un yn gallu bod yn wir o greu dyfodol sydd yn fwy cynaliadwy a chyfartal yn enw cymdeithas a’c amgylchedd ynghyd. 

Mae cynhadledd mis nesaf wir yn symboleiddio cyfuniad o wleidyddion sydd wedi eu hethol, swyddogion a chynrychiolwyr a fydd heb unrhyw ddewis mond i gynrychioli eu hetholwyr priod ar draws y byd os rydym am weld dyfodol cynaliadwy. Rwy’n credu ei fod yn bosib!  

Efallai hoffwch hwn hefyd

Gweld popeth

O’r Pridd i’r Enaid: Buddiannau Cudd Byw’n Gynaliadwy

Gwymon: Llanw o Newid i’n Dyfroedd Arfordirol

Gweld popeth

Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu

Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.

Ychwanegu eich llais
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.