fbpx

Gweld a chreu dyfodol gwyrdd

20 Medi, 2021
Gan Nina Bentley

Mae GwyrddNi yn brosiect newydd gan DEG a phump menter gymunedol fydd yn sefydlu Cynulliadau Hinsawdd ledled Gwynedd. Nina Bentley yw Hwylusydd Gweithredu Hinsawdd Cymunedol GwyrddNi ym Mro Ffestiniog.  

Blaenau Ffestiniog oedd un o drefi chwarel mwyaf gogledd Cymru, felly gellir dadlau hefyd mai dyma’r dref a gafodd ei heffeithio fwyaf yn ystod cyfnod y dad-ddiwydiannu. Hannerodd y boblogaeth, gan adael Blaenau ar ei gliniau. Ac eto, o’r ddaear grin gwelwn bod eginau gwyrdd yn tyfu i fod yn blanhigion ffyniannus; planhigion brodorol, cryf.  

Mae pobl Bro Ffestiniog wedi treulio blynyddoedd yn creu ac sefydlu mentrau cymunedol cymdeithasol ac economaidd yma, boed nhw yn adeiladau, neu’n fusnesau a mentrau sy’n eiddo i’r gymuned. Mae Cwmni Bro yn sefydliad ymbarél ar gyfer pymtheg o’r mentrau cymdeithasol hyn yn yr ardal, ac mae’n gweithredu i hyrwyddo arfer da, gwytnwch, a chynaliadwyedd, er budd yr economi leol. 

Cryfder a thegwch i’r bobl sydd wrth galon y gwaith, a’r egwyddor o rymuso pobl ar lawr gwlad, yn hytrach na dibynnu ar lywodraeth leol a chenedlaethol i ddatrys y problemau sydd wrth wraidd y gwaith datblygu. 

A tybed a fu amser mor bwysig yn ein hanes ar gyfer y math hwn o feddyfryd? Ar gyfer y gwerthoedd hyn o gyd-weithio a chyd-ddatblygu mewn modd cynaliadwy? 

Mae Y Dref Werdd yn un o’r mentrau cymdeithasol sy’n gweithio gyda hyn i gyd mewn golwg. Gan wybod bod yn rhaid cysylltu egwyddorion Cymuned, Lles a chyfoeth yr Amgylchedd, mae’r sefydliad yn gweithio ar draws y sbectrwm – o dlodi tanwydd i blannu coed; o fynediad cyfartal, i gynhyrchu bwyd.

Ond ar hyn o bryd, yng nghanol y datblygiad cymunedol hwn sydd yn gweithio o gwmpas yr hyn sydd yma yn lleol, mae angen i ni, trigolion yr ardal, fod yn cael sgyrsiau ynghlych ein dyfodol. Erbyn hyn mae gwytnwch yn fater o greu dyfodol cynaliadwy. Fedrwn ni ddim prynu aer ac ecosystemau. Ond mi allwn ni weithio gyda’n gilydd i greu ffyrdd o fwy mwy cynaliadwy o fewn ein cymunedau. 

Felly beth yw’r cwestiynau y mae angen i ni eu hateb? Ym mha fath o leoedd y gallwn ni gael y sgyrsiau hyn? Dyma waith prosiect GwyrddNi, a hynny ar ffurff Cynulliad Hinsawdd ar gyfer y bobl leol yma. Cyfle i ddysgu ac i drafod, ac i ddewis gyda’n gilydd, sut ddyfodol yr ydym am ei weld, a’i greu. 

Gan Nina Bentley

Hwylusydd Gweithredu Hinsawdd Cymunedol Bro Ffestiniog
Nina@deg.cymru 

Efallai hoffwch hwn hefyd

Gweld popeth

Rydym yn recriwtio – Cydlynydd Dychmygu Gweithredu ar gyfer Grŵp Lleiafrifoedd Ethnig Climate Cymru

Mae Gweithredu ar Lefel Leol yn Arwain at Effaith Fawr, meddai Elusen Hinsawdd y DU

Gweld popeth

Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu

Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.

Ychwanegu eich llais
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.