fbpx

Garddio sy’n gyfeillgar i natur yng Ngerddi Dyffryn, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

22 Medi, 2021

Mae’r amgylchedd ein hangen nawr yn fwy nag erioed, ac mae’n rhaid i’r gwaith o geisio adfer natur fod wrth wraidd ymdrechion ein cenedl i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, adeiladu gwytnwch, a chefnogi iechyd a lles pobl.

Yn Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, rydym yn gwneud gwelliannau ar raddfa tirwedd ar gyfer natur, ac rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan i adfer a diogelu ein hamgylchedd naturiol. Ein huchelgais yw cyflawni statws carbon sero-net erbyn 2030, ac rydym yn gweithio’n galed i adfer 4,600 hectar o gynefin â blaenoriaeth ar draws Cymru erbyn 2025, i helpu i wrthdroi’r dirywiad mewn bywyd gwyllt.

Yng Ngerddi Dyffryn ym Mro Morgannwg, rydym yn adfer dolydd blodau gwyllt ar draws y gerddi a’r ystâd ehangach, i gynnig help llaw i natur a chynyddu amrywiaeth y fflora a’r ffawna. Mae ein dolydd yn darparu gwledd i bryfed peillio, a mwy o ardaloedd porthiant ar gyfer mamaliaid ac adar.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn brysur yn casglu hadau cribell felen yn y dolydd. Mae’r planhigyn hemiparasitig hwn yn helpu planhigion eraill, ac mae blodau gwyllt yn gallu tyfu drwyddo. Bob blwyddyn, rydym yn casglu’r hadau o’r podiau sych, ac yn eu plannu’n ôl i’r dolydd.

Yn y coedardd a’r parcdir, mae ein hen goed yn cael eu rheoli’n ofalus ar gyfer adar sy’n nythu, ac mae coed marw a chafnau yn lletya ystlumod, gwenyn, chwilod a ffyngau. Mewn mannau eraill ar yr ystâd, rydym wedi plannu dros un cilomedr o wrychoedd newydd, i greu coridor bywyd gwyllt a darparu ffynhonnell fwyd hanfodol, ac mae gwaith ar y gweill yn awr i droi cae sydd heb gael ei ddefnyddio o’r blaen ar gyrion yr ystâd yn berllan treftadaeth. Yn ogystal â hyrwyddo coed afalau a gellyg Cymreig, bydd y berllan yn gynefin pwysig i lu o adar, pryfed peillio a phryfed.

Yn ein gardd addurnol, rydym yn parhau i addasu ein harferion rheoli i greu gardd hanesyddol gyfoethog sy’n hyfryd erych arni, ac sy’n dda i natur hefyd. Mae hyn wedi cynnwys adnewyddu a newid y ffordd mae ein nodweddion dŵr yn cael eu rheoli, er mwyn darparu mwy o ddiddordeb blodeuol i’n hymwelwyr, ond gwell cynefinoedd dyfrol ar gyfer yr amrywiaeth o amffibiaid ac infertebratau sy’n eu galw’n gartref. Rydym wedi cyflwyno llawer o fylbiau blodau’r gwanwyn a lluosflwydd blodeuo hwyr hefyd ar draws yr ardd, i ddarparu ffynonellau neithdar ar gyfer pryfed peillio cynnar a hwyr.

Un o’r arferion mwy diweddar rydym wedi’i fabwysiadu yw ‘dolydd bach’ ar y Lawntiau Mawr; o fewn yr ardal ffurfiol hon,  rydym yn marcio siapiau addurniadol ar y glaswellt, ac yn caniatáu iddo dyfu heb ei dorri o fis Mai i fis Medi. Mae’r amrywiad mewn uchder y glaswellt yn cefnogi amrywiaeth eang o bryfed a’r adar sy’n bwydo arnynt, yn ogystal â lleihau’r lawntiau rhag cywasgu, sy’n fuddiol i’r ffyngi capiau cŵyr sydd yn cael ei ddarganfod yn yr ardal hon.

Mae’r penderfyniadau garddio cywir yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i’n fflora a’n ffawna brodorol – beth rydym yn dewis eu plannu, beth rydym yn caniatáu iddynt fynd yn wyllt, beth rydym yn ei adeiladu a beth rydym yn eu gadael i bydru.

A nawr, yn sgil gosod boeler biomás o’r radd flaenaf, pympiau sy’n codi gwres o’r ddaear, a phaneli solar i helpu i leihau ein hôl troed carbon ymhellach. mae ein gardd yn wyrddach fyth.

Fel elusen gadwraeth fwyaf Ewrop, mae gennym gyfrifoldeb i wneud popeth o fewn ein gallu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, sy’n peri’r bygythiad mwyaf i’r lleoedd, natur a’r casgliadau rydym yn gofalu amdanynt.

Rydym yn falch o fod yn cymryd dull gweithredu fwy, gwell a mwy cydgysylltiedig at gadwraeth natur, a rhoi’r amgylchedd wrth wraidd yr hyn a wnawn.

Dysgwch fwy am waith yr Ymddiriedolaeth yng Ngerddi Dyffryn:  www.nationaltrust.org.uk/dyffryn-gardens

Efallai hoffwch hwn hefyd

Gweld popeth

O’r Pridd i’r Enaid: Buddiannau Cudd Byw’n Gynaliadwy

Gwymon: Llanw o Newid i’n Dyfroedd Arfordirol

Gweld popeth

Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu

Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.

Ychwanegu eich llais
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.