Galwad Cyfunol Cymru am Arweiniad Cryf am yr Hinsawdd


Mewn oes lle mae’r hinsawdd a’i hargyfyngau rhyng-gysylltiedig yn mynnu ac yn haeddu gweithredu brys, trawsnewidiol, mae arweinyddiaeth hinsawdd yn allweddol i ddatgloi newid ar y raddfa sydd ei hangen arnom, yng Nghymru ac yn fyd-eang.
Datgelodd ein Taith Werdd o Gymru ddiweddar dapestri o arloesi ar lawr gwlad a mentrau cymunedol sydd eisoes yn cael eu harwain gan unigolion, partneriaid a sefydliadau lleol amrywiol. Roedd y daith yn cyd-daro ag yr Wythnos Fawr Werdd 2024, y dathliad mwyaf erioed yn y DU o weithredu cymunedol sy’n mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac amddiffyn byd natur.
Mae’n amlwg bod miloedd o bobl o bob cefndir yn teimlo’n gysylltiedig â natur, yn poeni’n fawr am yr amgylchedd, ac yn dymuno arweiniad cryf yn yr hinsawdd. Yn ei absenoldeb, mae llawer wedi camu i fyny i ddod yn arweinwyr yn eu cymunedau a’u rhwydweithiau eu hunain.

Mae ymdrechion y rhai y cawsom y pleser o ymweld ag yn ystod y daith yn tanlinellu neges hollbwysig: pwy bynnag a bleidleisir i rym fel y llywodraeth newydd yn ystod etholiad cyffredinol y 4ydd o Orffennaf 2024, rhaid iddynt nid yn unig gefnogi ond ymhelaethu ar y llwyddiannau lleol hyn trwy bolisïau, ymrwymiadau a buddsoddiadau cadarn. Mae gan lywodraethau nesaf Cymru a’r DU gyfle unigryw i harneisio’r momentwm hwn, gan ehangu llwyddiannau lleol i fod yn strategaeth gynhwysfawr â meddylfryd byd-eang a allai fod yn fodel ar gyfer gweithredu hinsawdd ledled y byd.
Ysgol Gynradd Hirael
Daeth y cyntaf ymhlith y llu o gyfarfyddiadau ysbrydoledig ar ein Taith Werdd o Gymru o ffynhonnell annisgwyl: yr ystafelloedd dosbarth. Yma buom yn ymgysylltu â’r genhedlaeth nesaf o eco-bencampwyr. Mae eu chwilfrydedd naturiol a’u hymrwymiad i stiwardiaeth amgylcheddol yn adlewyrchu angerdd dwfn o oedran ifanc dros gadw a gwarchod y blaned.
Mae myfyrwyr ysgol heddiw yn ymwybodol iawn mai nhw fydd yn wynebu effeithiau cyflymu newid hinsawdd. Yn ôl arolwg yn 2022 gan Achub y Plant, mynegodd dros 70% o blant 8-12 oed bryder am newid hinsawdd ac yn poeni am y byd y byddant yn ei etifeddu, gan adlewyrchu ymwybyddiaeth a phryder cynyddol am faterion amgylcheddol yn ifanc.

Mae’r ymwybyddiaeth hon wedi eu hysgogi i weithredu wrth iddynt ymdrechu i greu newid cadarnhaol yn eu cymunedau a thu hwnt. O astudio natur i roi arferion cynaliadwy ar waith yn eu hysgolion, nid yw’r gweithredwyr ifanc hyn yn aros am y dyfodol – maen nhw’n ei siapio nawr. Mae eu safiad rhagweithiol yn alwad glir i’r llywodraeth gamu i fyny a chyfateb eu hymrwymiad.
Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru
Wrth i ni barhau i archwilio tirwedd amrywiol arweinyddiaeth hinsawdd gymunedol yng Nghymru, daw’n amlwg bod y mudiad hwn yn mynd y tu hwnt i oedran a daearyddiaeth. Y tu hwnt i weithredoedd ysbrydoledig myfyrwyr ysgol, mae enghraifft ryfeddol arall i’w chael yng Nghymdeithas Affrica Gogledd Cymru.
Mae Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru yn grŵp sy’n seiliedig ar aelodaeth ar gyfer y gymuned Ar Wasgar Affricanaidd a Charibïaidd a ffrindiau Affrica yng Ngogledd Cymru. Wrth ganolbwyntio ar amrywiaeth eang o fentrau cymunedol, mae’r grŵp hefyd yn chwarae rhan flaenllaw wrth fynd i’r afael â materion amgylcheddol trwy ymgysylltu gwleidyddol.
Trwy gynnal paneli a thrafodaethau yn ystod Yr Wythnos Fawr Werdd sy’n codi cwestiynau tyngedfennol — fel sut i drosoli gwleidyddiaeth i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn Etholaeth Bangor Aberconwy—maent yn magu deialog hollbwysig sy’n pontio pryderon lleol ag atebion byd-eang. Mae eu hymdrechion yn amlygu pwysigrwydd cynnwys y gymuned wrth yrru cynnydd amgylcheddol.

Gwaith eco-aliniedig arall mae’r grŵp yn wneud yw hyrwyddo ac annog eu cymuned i fynychu digwyddiadau megis Gweithdy Celf Afonydd Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru a chynnal ‘Nosweithiau Sgwrsio Hinsawdd’.
Mae sgyrsiau agored, cynhwysol gyda chymunedau am newid hinsawdd a’r dyfodol yn rhywbeth y mae Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru yn wneud yn wych. Mae eu hymagwedd ragweithiol at ymgysylltu â lleisiau amrywiol, yn enwedig y rhai sy’n cael eu gwthio i’r cyrion yn aml mewn trafodaethau hinsawdd, yn amlygu pwysigrwydd deialog a yrrir gan y gymuned wrth lunio polisïau effeithiol. Trwy hwyluso paneli a thrafodaethau sy’n cysylltu profiadau lleol â gweithredu gwleidyddol ehangach, maent yn dangos sut y gall grymuso cymunedau arwain at atebion arloesol, perthnasol.
Os ydym am ddatgloi newid ar y raddfa sydd angen arnom i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, rhaid i lywodraethau Cymru a’r DU’r dyfodol ddilyn esiampl Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru. Mae angen strategaethau amgylcheddol cynhwysol ar Gymru er mwyn sicrhau bod ein dyfodol nid yn unig yn deg ond yn cael ei gyfoethogi gan fewnwelediadau ac anghenion pob dinesydd, yn enwedig y rhai a anwybyddwyd yn hanesyddol.
Sinfonia Cymru

(Llun gan @kirstenmcternanphotography trwy Sinfonia Cymru)
Wrth barhau â’n harchwiliad o hinsawdd ysbrydoledig ac arweinyddiaeth gymunedol yng Nghymru, mae enghraifft gymhellol arall yn dod i’r amlwg gyda Sinfonia Cymru a’u cyfres gyngherddau arloesol “Adfywio: Tymhorau dros Newid.“
Mae’r gerddorfa hon wedi mynd y tu hwnt i’w rôl draddodiadol, gan ddefnyddio pŵer cerddoriaeth i drochi’r gynulleidfa mewn byd lle daw cerddoriaeth yn gatalydd ar gyfer gobaith, dychymyg a dyfodol ein planed. Mae’r croestoriad hwn o gelfyddyd ac eiriolaeth nid yn unig yn ennyn diddordeb calonnau a meddyliau, ond hefyd yn cynnig cyfleoedd trawsnewidiol i feddwl y tu hwnt i bryderon uniongyrchol a dychmygu byd lle mae ein dyhead a’n hawl i ddyfodol iachach, gwyrddach a thecach yn realiti.
Dywedodd yr actifydd hinsawdd, feiolinydd a hwylusydd Sinfonia Cymru, Simmy Singh, am y cyngerdd:
“Rydyn ni yma i archwilio sut gallwn ni fod y genhedlaeth i adfywio’r blaned hon ac i fod yn rhan o’r ateb i’r argyfwng hinsawdd. Rydyn ni’n mynd i wneud hynny trwy gerddoriaeth bwerus Vivaldi fel nad ydych chi erioed wedi’i chlywed o’r blaen. Y Pedwar Tymor, cerddoriaeth werin, clasurol, popeth yn y canol. Rydyn ni yma i werthfawrogi harddwch toreithiog natur, i feddwl am ein heffaith ar y ddaear hardd hon a sut y gallwn ddod o hyd i’r dwyochredd hardd hwnnw unwaith eto.”
Mae menter arloesol Sinfonia Cymru yn ei gwneud yn glir bod gan sefydliadau diwylliannol rôl ganolog i’w chwarae wrth lunio’r naratif cynaliadwy a symbylu cymunedau i newid ystyrlon. Mae artistiaid yn ein herio i ystyried yr hyn gellid ei gyflawni pe bai pob unigolyn, yn enwedig y rhai sydd â dylanwad a grym, yn ymrwymo’n llawn i’w rôl wrth wireddu newid.
Ein Gwirfoddolwyr

Daw ein huchafbwynt olaf, a mwyaf personol efallai, gan y gwirfoddolwyr a ddaeth gyda ni ar y daith hon.
Mae’r unigolion hyn, wedi’u hysgogi gan ymdeimlad dwys o gyfrifoldeb a brys, wedi camu i rolau arwain i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd ar lawr gwlad. Mae eu hymrwymiad diwyro a’u hymdrechion rhagweithiol yn destament pwerus i’r effaith y gall dinasyddion penderfynol cael ar eu cymunedau a’u hamgylchedd. Dylai’r llywodraeth nesaf gymryd ysbrydoliaeth o’u hesiampl, gan fabwysiadu eu hysbryd o ymroddiad a brys i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn uniongyrchol.
Wrth i ni deithio trwy ymdrechion ysbrydoledig unigolion, busnesau, sefydliadau, elusennau a grwpiau cymunedol ledled Cymru, mae’n amlwg bod dyfodol tecach, gwyrddach a gwell o fewn ein cyrraedd. Mae miloedd ohonom eisoes wedi bod yn gosod y sylfeini ar gyfer newid, ac mae’n hen bryd i’r rhai sydd mewn safleoedd o rym gamu i’r adwy a chyfateb i’r ymrwymiad a’r egni sydd eisoes yn cael eu rhoi allan gan ddinasyddion angerddol.
Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd eisoes yn cael eu teimlo ac mae angen swyddogion etholedig arnom a all ddarparu arweiniad amgylcheddol ar gyfer planed iach a lles ein cymunedau. Bydd y penderfyniadau a wnawn yn awr yn siapio’r Gymru a adawwn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac yn diffinio rôl ac etifeddiaeth Cymru yn yr ymdrech fyd-eang i frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.
Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu
Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.
Ychwanegu eich llais
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.