fbpx

Etholiadau’r Senedd 2021 – Sut y gall pobl ifanc yng Nghymru newid ein perthynas â’r amgylchedd

12 Mai, 2021
Gan Rhia Danis (Intern Cyfathrebu ac Allgymorth WWF Cymru)

Yn sgîl streiciau’r ieuenctid dros yr hinsawdd, hyrddiwyd pwnc newid hinsawdd a cholli natur i’r lwyfan byd-eang, gan anfon neges ddifrifol bod dyfodol ein planed yn fater hanfodol a dybryd na ellir ei anwybyddu mwyach. Sbardunodd y mudiad drafodaethau byd-eang oedd yn mynnu bod unigolion, llywodraethau a busnesau yn gwella ein perthynas â byd natur.

Mae’r dyddiau o ystyried amgylcheddwyr yn hipis sy’n cofleidio coed wedi mynd; mae’r genhedlaeth newydd hon o actifyddion radical ac angerddol yn defnyddio protestiadau, gwleidyddiaeth a’r cyfryngau cymdeithasol mewn ffyrdd sy’n ymgrymuso.

Daeth oddeutu 10,000 o bobl at ei gilydd yn Llundain ar gyfer streiciau’r ieuenctid dros yr hinsawdd yn 2019, a daeth myfyrwyr o bedwar ban byd – gan gynnwys America, yr Almaen, India a Japan – ynghyd i ddangos pŵer protestiadau.

Cyrhaeddodd ymrwymiad Greta Thunberg i gyfiawnder hinsoddol gynulleidfa ryngwladol, ac ymunodd nifer o actifyddion ifanc â hi, gan arwain y ffordd dros newid.

Yma yng Nghymru, gellir dadlau y bydd penderfyniadau’r llywodraeth nesaf yn effeithio mwyaf ar bobl ifanc. Eleni, bydd rhai 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio, gan ganiatáu iddynt weithredu ar gyfer y dyfodol. Mae’n hollbwysig ein bod ni fel pobl ifanc yn defnyddio ein hawl i ddemocratiaeth, yn dysgu am faniffestos y pleidiau, a mynd i bleidleisio ar 6 Mai.

Ar ôl yr holl heriau a gafwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae angen inni ddod ynghyd yn fwy nag erioed, er mwyn gwrando a chefnogi ein gilydd.

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi creu pryderon ynghylch swyddi a’r angen am well cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl. Mae llawer ohonom wedi dysgu nad oes angen symud i ffwrdd o Gymru bellach er mwyn symud ymlaen yn ein gyrfa. Daeth gweithio o bell yn norm, ac nid yw’r ffordd yr ydym yn gwarchod ein hamgylchedd erioed wedi bod mor bwysig.

Mae’r ymdrech i sicrhau swyddi gwyrddach yn un a fydd yn helpu ein heconomi, yn cyfrannu at ein nod o fod yn genedl gynaliadwy, ac yn gwarchod ein bywyd gwyllt. Mae buddsoddi mewn natur a mannau gwyrdd yn gwneud Cymru’n genedl y gallwn fod yn falch ohoni. Dros y 12 mis nesaf, mae gan Gymru’r cyfle i ddangos arweinyddiaeth ar lwyfan byd-eang. Bydd arweinwyr y byd yn ymgasglu yn Tsieina ar gyfer Uwchgynhadledd Bioamrywiaeth COP15. Yn nes at adref, bydd y DU yn cynnal Uwchgynhadledd Hinsawdd COP26 ym mis Tachwedd. Rhaid i Gymru ddangos arweinyddiaeth fyd-eang wirioneddol drwy osod ymrwymiadau uchelgeisiol i weithredu – er hynny, dim ond os ydym ni fel pobl ifanc yn cymryd rhan yn y mudiad y bydd hynny’n bosibl.

Beth sy’n bwysig i bobl ifanc

Dangosodd ymchwil a gynhaliwyd ar draws y DU yn 2019 bod pobl ifanc yn rhoi mwy o bwys ar broblemau amgylcheddol, fel yr argyfwng hinsawdd a difodiant bywyd gwyllt ar raddfa fyd-eang, na’r boblogaeth yn gyffredinol hyd yn oed. Y materion hyn oedd bwysicaf iddynt, heblaw Brexit. Yn ôl bron hanner o’r rhai rhwng 18 a 24 oed a holwyd, materion amgylcheddol oedd un o dri phrif bryder y genedl, o gymharu ag ychydig dros chwarter o’r boblogaeth gyfan.

Daeth yr amgylchedd yn fwy amlwg hefyd yn sgîl cyfyngiadau symud COVID-19, gyda lluniau trawiadol o ddinasoedd mawr a thirnodau ar draws y byd yn profi aer sylweddol glanach. Hefyd, cafwyd lluniau o fywyd gwyllt yn symud i ardaloedd a fu’n llawn prysurdeb dynol tan yn ddiweddar, fel geifr Llandudno, a helpodd i hoelio’r sylw ar faterion amgylcheddol.

Dangosodd grwpiau ffocws a gynhaliwyd ar ran WWF Cymru yn 2020 gan Beaufort Research ymysg pobl ifanc 16-25 oed ledled Cymru, er bod amrywiaeth eang o faterion yn bwysig i’r rhan fwyaf o’r rhai a holwyd, roedd pryderon amgylcheddol yn cael sylw amlwg. Pan ofynnwyd iddynt am eu blaenoriaethau pleidleisio, esboniodd y cyfranogwyr:

“Dwi’n credu os yw rhywun (ymgeisydd) yn cynnig gwneud rhywbeth ynghylch mater amgylcheddol, fel newid hinsawdd neu sbwriel neu rywbeth fel yna, byddwn i’n bendant yn ei ystyried.” (B, 19-21, Ceredigion)

“Yr amgylchedd a’r hinsawdd – dwi’n credu bod sawl mater arall yn dibynnu ar hwnnw mewn un ffordd neu’r llall. (B, 22-25, Aberconwy)

Cadarnhaodd data dealltwriaeth WWF fod bron i 60% o bobl ifanc 16-29 oed yn cytuno bod rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru roi blaenoriaeth i swyddi gwyrdd. Dangosodd arolwg YouGov yn 2020 bod 85% o bobl ifanc (16-24 oed), canran enfawr, yn cefnogi’r syniad o Lywodraeth Cymru yn cynyddu ei buddsoddiad mewn gwarchod ac adfer natur yng Nghymru.

Mae pleidleiswyr Cymru wedi dangos ein bod ni’n malio am faterion amgylcheddol. Ni fu erioed amser mwy tyngedfennol i wneud y newid mae ei angen i warchod y blaned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Gyda phobl ifanc 16 ac 17 oed yn cael y bleidlais, a chynnydd yn y garfan o bleidleiswyr tro cyntaf sy’n ymwybodol o’r amgylchedd, mae’n debygol y gallai’r amgylchedd gael sylw neilltuol yng nghyfansoddiad ein Senedd yn y dyfodol.

Efallai hoffwch hwn hefyd

Gweld popeth

Rydym yn recriwtio – Pennaeth Cyfathrebu a Newid Naratif

Rydym yn recriwtio – Cydlynydd Adrodd Straeon a Chynnwys Digidol

Gweld popeth

Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu

Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.

Ychwanegu eich llais
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.