fbpx

Ymunwch â ni ar gyfer Wythnos Fawr Werdd 8-16 Mehefin 2024

Gadewch i ni gyfnewid gyda'n gilydd, am y gorau.

Cewch eich ysbrydoli gan y cyfnewidiadau mae cymunedau'n wneud bob dydd i helpu creu yfory gwell.

COFRESTRWCH EICH DIGWYDDIAD

Bydd yr #WythnosFawrWerdd yn cael ei chynnal eleni rhwng yr 8fed a’r 16eg Mehefin 2024. Bydd yn gweld pobl ledled y wlad yn ymuno â’i gilydd mewn dathliad cenedlaethol o weithredu i amddiffyn y blaned, gan ddangos bod cymunedau ledled y DU yn gwneud cyfnewidiadau bob dydd i helpu i greu yfory gwell – a nawr mae angen dybryd ar wleidyddion i gamu i fyny a chwarae eu rhan.

Darganfod mwy am Wythnos Fawr Werdd 2023.

Beth bynnag rydych chi’n cynllunio, gwnewch yn siŵr eich bod yn COFRESTRU EICH DIGWYDDIAD i wneud iddo gyfrif!

Pan fyddwch yn ychwanegu digwyddiad, byddwch yn derbyn pecyn AM DDIM o adnoddau Wythnos Fawr Werdd, gan gynnwys posteri, sticeri a bynting! Cofrestrwch eich digwyddiadau heddiw!

Adnoddau i’ch helpu i hyrwyddo Wythnos Fawr Werdd

Defnyddiwch dempled Canva newydd ac ychwanegwch eich logo (sgwâr, portread neu dirwedd) neu lawrlwythwch graffeg ‘Rydym yn cymryd rhan’ yn Gymraeg neu Saesneg yma.

Wrth rannu cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol, defnyddiwch:

HASHNODAU: #WythnosFawrWerdd #CyfnewidGyda’nGilydd

TAGIAU: @TheCCoalition ar X, @theclimatecoalition ar Instagram / Facebook

Ysgolion

Yn meddwl tybed sut gall eich ysgol gymryd rhan yn yr #WythnosFawrWerdd? Edrychwch ar y pecynnau gweithgaredd hyn ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd!

Maen nhw’n llawn o weithgareddau, cynlluniau gwersi a syniadau ar gyfer sut gallwch chi gael eich disgyblion i gymryd rhan yn yr wythnos o weithredu cenedlaethol hon i fynd i’r afael â amddiffyn byd natur a newid hinsawdd.

greatbiggreenweek.com/get-involved/schools

Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.