Warm this Winter Day of Action at the Senedd, 12 noon Sat 3rd Dec
- Ymunwch â ni ar gyfer Diwrnod Gweithredu Cynnes Gaeaf Yma yn y Senedd ddydd Sadwrn 3 Rhagfyr am 12 hanner dydd i godi ymwybyddiaeth am gostau byw, yr argyfwng hinsawdd a’r argyfwng ynni a darganfod sut, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, y gallwn wella effeithlonrwydd ynni trwy fuddsoddi mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy sy’n well ar gyfer y bobl a’r blaned.
- Ar y diwrnod gweithredu mae yna wahanol ffyrdd y gallwch chi ddangos eich cefnogaeth. Gallwch wisgo rhywbeth melyn i symboleiddio cynhesrwydd. Boed yn het felen neu’n siwmper felen, neu fe allech chi hyd yn oed ddod â blanced felen neu botel dŵr poeth! Efallai y gallech chi hyd yn oed wau neu grosio eich sgarff felen eich hun.
- Byddwn yn lansio deiseb ar y diwrnod gweithredu i ofyn i Lywodraeth Cymru weithredu nawr a chadw pobl yn Gynnes y Gaeaf Yma.
- Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno! Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i helpu.
- Os na allwch chi gyrraedd yno ar y diwrnod, gallwch dynnu llun ohonoch chi’ch hun yn gwisgo rhywbeth melyn, a phostio neges ar gyfryngau cymdeithasol yn cefnogi ymgyrch Cynnes Gaeaf Yma gyda’r hashnod #cynnesgaeafyma #warmthiswinter #cynnesgaeafyma
- Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno! Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i helpu.
- Rhannwch y dudalen we hon neu’r digwyddiad Facebook hwn gyda’ch rhwydweithiau.
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.