fbpx

Dadleoli yng Nghymru

6 Chwefror, 2023
Gan Rhia Danis, Climate Cymru Ambassador
WOMAN IN RED ROBE WALKING THROUGH A DUSTY LANDSCAPE, DARFUR

Delwedd: Menywod mewn gwisg goch yn cerdded trwy dirlun llychlyd, Darfur – Climate Visuals

Mae Rhia Danis yn Ymgynghorydd profiadol gyda hanes amlwg o weithio gyda chyrff anllywodraethol llawr gwlad a rhyngwladol. Mae ganddi ddiddordeb mewn hawliau dynol, mudo, cyfiawnder amgylcheddol, ac iechyd menywod.

Newid hinsawdd yw un o’r argyfyngau amgylcheddol mwyaf enbyd sy’n bygwth bywyd fel yr ydym yn ei adnabod.

Mae effaith newid hinsawdd yn cydblethu i bron bob rhan o’n bywydau o ddydd i ddydd, gan gynnwys patrymau tywydd, amodau byw a’n system fwyd. Mae’n bygwth diogelwch cenedlaethol, economeg ac amaethyddiaeth. Gall yr amodau hyn ddod yn fwyfwy bygythiol ledled y byd. Mae Uwch Gomisiynydd Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig (UNHCR) yn rhagweld bod cyfartaledd o 21.5 miliwn o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi o ganlyniad i ddigwyddiadau sy’n ymwneud â’r hinsawdd: mae hyn yn golygu newidiadau tywydd eithafol, stormydd, a llifogydd. Canfu’r UNHCR bod 95% o ddadleoli oherwydd gwrthdaro neu ryfel yn digwydd mewn gwledydd a oedd yn agored iawn i effeithiau newid hinsawdd.

 

 

Saraf, 8: a local girl sitting on a submerged car outside her family home, flooded by a tidal surge in Chaktai, Chittagong.

Saraf, 8: merch leol yn eistedd ar gar tanddwr y tu allan i’w chartref teuluol, dan ddŵr gan ymchwydd llanw yn Chaktai, Chittagong.

Mae tymereddau cyfartalog byd-eang wedi codi 1°C dros y ganrif ddiwethaf, ac mae gwyddonwyr hinsawdd yn credu y gallai’r cynhesu fod rhwng 3-5 °C erbyn diwedd y ganrif hon. Mae ein cefnforoedd yn amsugno tua 90% o’r gwres hwnnw, ond mae dŵr cynhesach yn ehangu, ac mae hyn, ynghyd â dŵr sy’n cael ei ryddhau o iâ pegynol wrth iddo doddi, yn achosi i lefelau môr byd-eang godi.

Ffoaduriaid Hinsawdd

Mae mudwyr amgylcheddol, neu ffoaduriaid hinsawdd fel y maent yn fwy adnabyddus, yn bobl sy’n wynebu dadleoliad yn bennaf oherwydd effeithiau newid hinsawdd. Diffiniwyd y term gan Essam El-Hinnawi, arbenigwr Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig ym 1985, wrth i unigolion “gael eu gorfodi i adael eu cynefin traddodiadol, dros dro neu’n barhaol, oherwydd tarfu amgylcheddol amlwg.” Er bod y term yn cael ei ddefnyddio’n eang, nid yw’n cael ei gydnabod yn gyfreithiol fel diffiniad ar gyfer ymfudwyr sy’n wynebu dadleoliad oherwydd yr hinsawdd.

Ond pam ei bod mor anodd diffinio ffoaduriaid hinsawdd?

Cwpl yn glanhau ar ôl y llifogydd sydyn a rwygodd drwy eu bwthyn ar lan yr afon yng Nghymru yn 2012

Nid yn unig ydi hi’n her i adnabod ffoaduriaid fel ‘ffoaduriaid hinsawdd’ ond mae hefyd yn afrealistig i gysylltu newid hinsawdd fel y ffactor unigol ar gyfer eu dadleoli. Mae llawer o gymunedau neu unigolion sy’n wynebu effeithiau dinistr hinsawdd hefyd yn wynebu ansicrwydd gwleidyddol neu economaidd. Mae’r materion hyn i gyd yn gysylltiedig â’i gilydd.

 

Ffoaduriaid Hinsawdd yng Nghymru

Mae Fairbourne yn gymuned yng Nghymru sy’n eistedd rhwng Eryri a Môr Iwerddon. Mae’n wynebu risg o godiad yn lefel y môr gan orfodi pobl leol i symud allan o’u cartrefi. Mae’r gymuned fechan yn profi llifogydd yn rheolaidd sy’n difetha eu cartrefi a’u busnesau. Mae Cyngor Gwynedd wedi rhagweld erbyn 2054, na fydd Fairbourne yn gallu gwrthsefyll ymosodiadau’r argyfwng hinsawdd. Nid problem ar gyfer y dyfodol nac i genhedloedd pell yn unig yw hyn. Mae’r ffaith ei fod yn digwydd ar ein stepan drws yn profi pa mor fyd-eang yw’r broblem. Er mwyn gweithredu newid ystyrlon yn wirioneddol bydd angen ymdrech fyd-eang ac undod.

Nid yw hon yn stori unigol, a chydag effeithiau newid hinsawdd yn cyflymu rydym yn debygol o weld sut mae’n effeithio ar fwy a mwy o bobl, gyda risgiau’n dwysáu dros amser. 

A allwn leihau ôl troed carbon Cymru?

Mae yna atebion wrth law. Yn ddiweddar, cyflwynodd aelodau’r Senedd fesur yn delio gydag effaith byd-eang defnydd Cymru. Amlygodd y cynnig hwn fod “mwy na 50 y cant o golledion coedwigoedd byd-eang a throsi tir i’w briodoli i gynhyrchu nwyddau amaethyddol a chynhyrchion coedwigaeth y mae defnyddwyr yn gofyn amdanynt”. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i gryfhau ei chontract economaidd ac ymrwymo i gadwyni cyflenwi sy’n rhydd rhag datgoedwigo, ecsbloetio cymdeithasol, a throsi. Yn ogystal, mae’n cynnig bod Cymru’n datblygu cytundebau masnach newydd a fydd yn gwarantu safonau amgylcheddol a hawliau dynol uchel, gan roi pobl yng nghanol y trafodaethau.

Mae arbenigwyr hinsawdd yn rhybuddio y byddwn yn gweld ymchwydd mewn cymunedau sy’n wynebu dadleoli. Heb fesurau lliniaru priodol gallem weld miloedd yn fwy yn gorfod ffoi o’u cartrefi. Mae’n hollbwysig ein bod yn annog llywodraethau byd eang i flaenoriaethu atebion cynaliadwy.

Efallai hoffwch hwn hefyd

Gweld popeth

Rydym yn recriwtio – Pennaeth Cyfathrebu a Newid Naratif

Rydym yn recriwtio – Cydlynydd Adrodd Straeon a Chynnwys Digidol

Gweld popeth

Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu

Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.

Ychwanegu eich llais
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.