Y Bangor #WythnosFawrWerdd 2021.
Yng nghoffâd Wythnos Fawr Werdd 2021, mae Cymdeithas Gogledd Cymru Affrica mewn partneriaeth â Climate Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru gyda cefnogaeth ariannol gan Y Glymblaid Hinsawdd. Mae’r digwyddiad yn un o’r 4,500 o ddigwyddiadau ledled y DU. Y themâu yw “Ewch yn wyrdd” neu “Go Green” gyda’r pwrpas o gyfleu neges cryf. Mae lansiad digwyddiadau’r wythnos yn gaddo i fod yn safle i greu momentwm ar gyfer gwleidyddion, Sefydliadau Cenedhelaethol Anllywodraethol, gweithredwyr yn ogystal â disgyblion ysgol.
Mae’r Wythnos Werdd Fawr “yn dathlu sut mae cymunedau ledled y DU yn gweithredu i fynd i’r afael â newid hinsawdd a gwarchod mannau gwyrdd. Mae’r digwyddiadau hefyd yn codi ymwybyddiaeth ac yn annog eraill i gymryd rhan.” Cymdeithas Gogledd Cymru Affrica sy’n arwain y dathliad ym Mangor gyda thri digwyddiad wedi’u lledaenu drwy gydol yr wythnos 18eg i 26ain o Fedi 2021. Bydd WWF Bangor yn lansio ar y 18eg o Fedi gyda’r siaradwr, Siân Gwenllian MS, Aelod Seneddol Etholaethol o Blaid Cymru ar gyfer Arfon. Siaradodd hi ynghlyn a rôl aelodau’r gymuned pan mae o’n dod i liniaru effaith newid hinsawdd. Cafodd y neges hyn ei rannu gan Heddlu Gogledd Cymru, Extinction Rebellion, Cymdeithas Celfyddydau Bangor, myfyrwyr Prifysgol Bangor ynghyd a’g ysgolion uwchradd a chynradd.
Mae’r diwrnod ymwybyddiaeth hinsawdd yn syrthio ar yr 21ain o Fedi. Bu’r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Affrica a Charibî ym Mangor. Disgwyliwn i daith werdd Climate Cymru fod yn rhan o’r digwyddiad Ymwybyddiaeth o Newid Hinsawdd gyda’g un o’r uchafbwyntiau yn dro o Ganolfan Affrica a Charibî, i cloc y dre er mwyn codi ymwybyddiaeth o weithredu i atal newid hinsawdd ymhlith cymdogwyr Bangor a thu hwnt. Mae digwyddiad tacluso’r traeth wedi’i drefnu ar gyfer y 25ain o Fedi ar draeth Rhosneigr. Bydd y digwyddiad hwn yn cyd-fynd yn braf â’r Great British Beach Clean. Mae Cymdeithas Gogledd Cymru Affrica yn arddangos ymrwymiad i newid hinsawdd drwy godi ymwybyddiaeth aelodau o’r gymuned ynghlyn a’r argyfwng hinsawdd a’r angen i fod yn rhan o weithredu i atal newid hinsawdd NAWR ac am BYTH!
Yn ystod y digwyddiadau mi fyddym yn gwahodd cyfranogwyr a gwesteion i ychwanegu eu lleisiau drwy arwyddo ar-y-spot i ymgyrch Climate Cymru sydd yn anelu i godi 50,000 o leisiau cyn COP26 2021 sydd yn cael ei gynnal yn Glasgow, Yr Alban ym mis Tachwedd.
Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu
Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.
Ychwanegu eich llaisWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.