Bydd cynulliadau hinsawdd yn un ffordd o ganolbwyntio
Mae GwyrddNi yn brosiect newydd gan DEG a phump menter gymunedol fydd yn sefydlu Cynulliadau Hinsawdd ledled Gwynedd. Lowri Hedd Vaughan yw Hwylusydd Gweithredu Hinsawdd Cymunedol GwyrddNi yn ardal Llanberis.
Lletygarwch, llechi a llwybrau dros y llethrau ydi hanfod ardal Padarn-Peris i’r mwyafrif. Ers tros 200 mlynedd, mae olion y diwydiant fu’n toi y byd wedi ehangu a chrebachu o gylch y ddau lyn, a chanoedd ar filoedd o olion traed wedi ceisio dofi copaon anghysbell. Prin ddwsin o deuluoedd fu’n trigo yma mewn tyddynnod dan gysgod castell Llywelyn Fawr cyn 1850, gan gynnal eu hunain trwy ffrwythau’r tir, amaeth, ffydd a chydweithrediad cymdogol.
Mae’r gymuned bresenol yn ymestyn i rai miloedd, a hediad ymwelwyr tymhorol yn lluosi hynny sawl gwaith. Ymysg y niferoedd sy’n preswylio’n barhaol, mae ‘na grwpiau ac unigolion argyhoeddedig tros bob agwedd o fywyd yr ardal. O lysgennad answyddogol y busnesau bychain i’r botanegydd a fabwysiadodd Cae’r Ddol, o arweinydd gweithgareddau creadigol Y Festri i gasglwyr sbwriel ‘Pentref Taclus’, heb anghofio y grwp di-flino a sefydlodd fenter egni adnewyddadwy Ynni Padarn Peris sydd bellach wedi sefydlu elusen annibynol i ddosbarthu elw ariannol y tyrbin hydro i fentrau lleol.
Heb arweiniad na chyfarwyddebau, mae ’na draddodiad cryf yma o unigolion yn bwrw iddi i wella eu milltir sgwar gan gynnal economi llesiant gylchol.
Bydd prosiect GwyrddNi yn mynd ati i amlygu’r cyfoeth o fentergarwch a chreadigrwydd cymunedol sydd ohoni, ehangu a phlethu rhwng y rhwydweithiau cyfredol, ysgogi sgyrsiau a thrafodaethau pell-gyrhaeddol a hwyluso datblygiad cysyniadau ac arbrofi gweithredol i liniaru effaith yr argyfwng hinsawdd.
Bydd cynulliadau hinsawdd yn un ffordd o ganolbwyntio a dyfnhau’r sgyrsiau am gyfnod er mwyn datblygu cynllun gweithredu hinsawdd lleol a sicrhau etifeddiaeth o lysgenhadon taer ac ymroddgar i fagu gwreiddiau ac ymestyn canghennau’r symudiad hollbwysig yma.
Gan Lowri Hedd Vaughan
Hwylusydd Gweithredu Hinsawdd Cymunedol GwyrddNi yn Llanberis
lowri@deg.cymru
Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu
Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.
Ychwanegu eich llaisWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.