fbpx
Gwelwch bob busnes

Zoë Binning Ltd

Mae Zoë Binning Ltd yn darparu rheolaeth fusnes lleoliad priodas cyflawn, ymgynghoriaeth bwrpasol a hyfforddiant staff i leoliadau priodas ledled Cymru.

 
Pam ydych chi'n poeni am yr hinsawdd?

Dros y blynyddoedd rydym wedi dod yn fwyfwy ymwybodol y gall rhamant y diwydiant priodas guddio ei natur wastraffus. Yn anffodus mae priodasau yn eu natur yn ddefnydd sengl ac yn cyfrannu’n enfawr at allyriadau carbon a gwastraff.

Rydym yn cyfuno ein gwasanaethau rheoli busnes ac ymgynghori lleoliadau priodas arbenigol gyda ffocws craff ar arferion priodas cynaliadwy ac ecogyfeillgar i weithio i drawsnewid sector yr ydym yn ei garu, ond y mae ei harferion ar hyn o bryd yn anodd ei gyfiawnhau; er mwyn dod yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd ac i wneud dewisiadau mwy cydwybodol  tuag at y blaned.

Rydym yn gweithio gyda lleoliadau priodas ledled Cymru i greu modelau busnes mwy cynaliadwy a phartneru gyda chyplau i ddod â’u syniadau o briodas sy’n gymdeithasol gyfrifol yn fyw.

Pa gamau ydych chi am eu gweld gan ein harweinwyr?

Rwyf am iddynt roi’r blaned a phobl o flaen elw a’u blaenoriaethau personol eu hunain.

Beth sy'n rhoi gobaith i chi ar gyfer y dyfodol?

Yr ystod eang o fusnesau ar garreg ein drws sydd nid yn unig yn gwthio dros, ond hefyd sy’n mynnu newid gwirioneddol, go iawn! Yr arloesiadau anhygoel sy’n creu llwybr gwell ac yn rhoi pobl a’r blaned o flaen elw, ond yn cyflawni hynny hefyd, gan ddangos bod lle real iawn yn y farchnad heddiw ar gyfer y cynhyrchion a’r gwasanaethau hyn. Mae’n anhygoel!

Busnesau eraill

Gweld popeth

Always Aim High Events

Phil Lambert, Artist

Cydbwyso’r Byd

Grŵp Cyfryngau a Digwyddiadau Orchard

Gweld popeth

Ychwanegu eich busnes

Dywedwch wrth ein harweinwyr sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar eich busnes, a pha gamau sydd eu hangen arnoch i fod yn rhan o’r ateb.

Ychwanegu eich busnes
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.