
Wild Roots Kitchen & Bar Ltd.
Mae Wild Roots Kitchen & Bar Ltd. yn darparu cyfleuster arlwyo anhygoel, moesegol, sy'n achub y blaned ar gyfer priodasau, digwyddiadau a chwsmeriaid corfforaethol, yma yn Ne Cymru. Maen nhw’n angerddol am gyflenwi bwydydd blasus a diodydd o ffynonellau lleol a chynaliadwy, gyda lefel ddigyffelyb o wasanaeth a gyda gwên bob amser!
Pam bod ots gennych chi am yr hinsawdd?
Mae gen i blant, ac rydw i eisiau iddyn nhw gael dyfodol a phlaned iach iddyn nhw, eu plant A’U plant nhw! Mae mor syml â hynny.
Pa gamau ydych chi eisiau eu gweld gan ein harweinwyr?
Rwyf eisiau iddynt roi’r gorau i flaenoriaethu gofynion ariannol busnesau mawr dros yr argyfwng byd-eang rydym i gyd yn ei wynebu. Pe bai cwmnïau’n cael eu dwyn i gyfrif am raddfa’r allyriadau, gwastraff ôl-gynhyrchion a’r plastig untro maen nhw’n eu cynhyrchu, yn uniongyrchol yn erbyn eu llinell waelod a heb unrhyw gyfle i yswirio eu ffordd allan o’r sefyllfa, buasem mewn sefyllfa wahanol iawn nawr. Dysgwch gan y busnesau newydd sydd ar y gweill a B-Corps sy’n gwneud newidiadau gwirioneddol i’r economi, hyd yn oed drwy roi pobl a’r blaned ar y blaen cyn elw! Mae’n bosib!
Beth sy’n rhoi gobaith i chi am y dyfodol?
Fy mhlant! Maen nhw eisoes yn weithredwyr ac yn arweinwyr ein dyfodol, ac mae eu cenhedlaeth eisoes yn dwyn yr arweinyddiaeth ddyletswydd bresennol i gyfrif. Mae hyn yn cynyddu, a diolch am hynny, gan fod y status quo presennol wedi methu â throi’r sefyllfa o gwmpas hyd yn hyn!
Busnesau eraill
Gweld popeth
Coffi Jenipher Cyf

Ynni Sir Gâr

Byjo

Eryri-Bywiol
Ychwanegu eich busnes
Dywedwch wrth ein harweinwyr sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar eich busnes, a pha gamau sydd eu hangen arnoch i fod yn rhan o’r ateb.
Ychwanegu eich busnes
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.