Sweetmans and Partners
Mae Sweetmans and Partners yn Gorfforaeth B arobryn sy'n bodoli i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w cleientiaid, eu pobl a'u cymunedau. Maen nhw’n arbenigo mewn gweithio gyda sefydliadau dan arweiniad dibenion a’r sector gwasanaethau ariannol, cyfreithiol a phroffesiynol, i arwain, addasu ac ymateb i'r byd cymhleth rydym yn gweithredu ynddo.
Pam ydych chi’n pryderu am yr amgylchedd?
Rydym yn credu fod gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ddiogelu a meithrin ein hinsawdd, ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Gall cyfraniad pob person, tîm, sefydliad a rhwydwaith wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n heriau.
Pa gamau ydych chi eisiau eu gweld gan ein harweinwyr?
Sicrhau bod yr hinsawdd yn rhanddeiliad allweddol ym mhob penderfyniad, strategol a gweithredol.
Ailfeddwl sut rydym yn diffinio ac yn mesur llwyddiant fel cenedl.
Gweithredu gydag ymdeimlad o frys ac ymrwymiad ar y cyd i’r hinsawdd.
Cyfleu penderfyniadau’n glir, a sut mae’r effeithiau tymor hir a thymor byr wedi cael eu hystyried a’u pwyso a’u mesur.
Beth sy’n rhoi gobaith i chi am y dyfodol?
Ein gallu unigol a chyfunol i ailfeddwl ein credoau ac addasu ein hymddygiad.
Busnesau eraill
Gweld popethBwyd am Byth CIC
Sero Zero Waste
Miller Research (UK) Ltd
ACS Clothing Limited
Ychwanegu eich busnes
Dywedwch wrth ein harweinwyr sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar eich busnes, a pha gamau sydd eu hangen arnoch i fod yn rhan o’r ateb.
Ychwanegu eich busnesWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.