Sero Zero Waste
Sero Zero Waste yw siop ddiwastraff gyntaf Casnewydd. Maen nhw’n annog pobl i leihau eu defnydd o blastig drwy gynnig gwasanaeth lle gallant ailddefnyddio'r cynwysyddion plastig sydd ganddynt eisoes, a'u hail-lenwi â hanfodion cartref fel cynnyrch glanhau, ystafell ymolchi a chynnyrch gofal personol, yn ogystal â bwydydd cyflawn. Maen nhw’n gweithio'n agos gyda busnesau lleol hefyd, i annog eu cwsmeriaid i siopa'n lleol gydag isafswm ôl troed carbon. Yn ogystal â gweithredu fel gofod manwerthu, maen nhw’n gweithio'n agos gyda'r gymuned hefyd, yn edrych ar newid ymddygiad, ac yn rhedeg gweithdai a digwyddiadau sy'n annog byw'n fwy cynaliadwy.
Pam ydych chi’n pryderu am yr amgylchedd?
Oherwydd bod yr amgylchedd naturiol yn dioddef o ganlyniad i’n hymddygiad, y gellir ei osgoi’n llwyr. Dylai pob un ohonom bryderu am y cyflwr rydym yn gadael ein planed ynddo ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, a’r effaith rydym yn ei chael ar ecosystemau cyfan, sy’n achosi i fywyd gwyllt gael ei beryglu gan ein gweithredoedd.
Pa gamau ydych chi eisiau eu gweld gan ein harweinwyr?
Rhoi mwy o gyfrifoldeb ar archfarchnadoedd, cwmnïau ceir, cwmnïau tanwydd ffosil ac ati i wneud newidiadau i’r ffordd maen nhw’n gwneud pethau, yn ogystal â’r pwysau presennol sy’n cael ei roi ar ddefnyddwyr i ddod o hyd i opsiynau amgen.
Beth sy’n rhoi gobaith i chi ar gyfer y dyfodol?
Yn syml, ein cwsmeriaid. Gweld pobl yn gwneud newidiadau i’w harferion bob dydd i geisio gwneud gwahaniaeth i’r hyn sy’n digwydd i’n hamgylchedd, ac mae sylweddoli nad oes un math unigol o berson sy’n gofalu yn creu ffydd mewn dyngarwch.
Busnesau eraill
Gweld popethY Bartneriaeth Ailddiffiniedig
Phil Lambert, Artist
Wild Roots Kitchen & Bar Ltd.
Ymdrochi Coedwig Aberystwyth
Ychwanegu eich busnes
Dywedwch wrth ein harweinwyr sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar eich busnes, a pha gamau sydd eu hangen arnoch i fod yn rhan o’r ateb.
Ychwanegu eich busnesWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.