fbpx
Gwelwch bob busnes

Mott MacDonald Limited

Mae Mott MacDonald yn ymgynghoriaeth rheoli, peirianneg a datblygu, sy'n darparu atebion sy'n ychwanegu gwerth at sawl maes o fywyd bob dydd – o drafnidiaeth, ynni, adeiladau, dŵr a'r amgylchedd i iechyd ac addysg, diwydiant a chyfathrebu.

 
Pam ydych chi’n pryderu am yr amgylchedd?

Ni yw’r ymgynghoriaeth beirianneg gyntaf i gael ei hardystio’n Garbon Niwtral (gan fodloni safon PAS 2060), ac mae EA, Anglian, Southern a Yorkshire Water wedi cysylltu â ni i ddatblygu mapiau ffordd i sero net. Rydym yn gwybod y gall dyluniadau, dulliau a manylebau deunyddiau cynaliadwy fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Byddwn yn datblygu atebion sy’n cyfyngu ar allyriadau drwy herio normau dylunio ac integreiddio egwyddorion SMNR. Er enghraifft, rydym yn defnyddio ein hoffer Design for Resource Efficiency (D4RE) a Moata Carbon Portal arobryn i ddarparu prosiectau gwastraff isel a charbon isel oes gyfan. Pan gawsant eu defnyddio ar Fae Colwyn (gweler C8.7a), dargyfeiriom dros 99% o wastraff o safleoedd tirlenwi, osgoi 34,500 o filltiroedd ffordd wagenni, a lleihau carbon ymgorfforedig o 30%. Ar gyfer Totnes, gweithiom gyda chynlluniau cyfagos Exeter a Dawlish Warren, i swmp-gaffael, gan sicrhau arbedion carbon. Yn ystod arfarniadau, rydym yn nodi opsiynau dalfeydd carbon.

 

Fel partner cymunedol, rydym yn creu cymunedau Cymreig gwydn. Wrth i newid yn yr hinsawdd gyflwyno mwy o eithafion tywydd, bydd mwy o lifogydd (a sychder). Nid yw diogelu yn ddigon, ac mae darparu hyblygrwydd a rheoli gormodiant llifogydd yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, er mwyn creu cymunedau Cymreig gwydn. O ran Cynllun Lliniaru Llifogydd Millburn, dewisom opsiwn a ddefnyddiodd y ffordd gyfagos i gludo dŵr llifogydd yn ddiogel i ffwrdd oddi wrth eiddo, gan arbed arian a chostau carbon.  Rydym yn deall pwysigrwydd seilwaith critigol mewn llifogydd. Yn llifogydd Cumbria yn 2015, rhannwyd cymunedau oherwydd pontydd wedi’u difrodi. Cawsom ein penodi gan Gyngor Cumbria i arwain ar ei Raglen Adfer Seilwaith arobryn. Defnyddiwyd ein platfform Moata Geospatial GiGi i reoli arolygiadau ôl-ddigwyddiad a darparu cynlluniau wedi’u blaenoriaethu ar sail risg ar gyfer adennill asedau. Rydym yn cydnabod bod pobl yn arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain, ac yn credu ei bod yn bwysicach nag erioed grymuso cymunedau i reoli eu hamgylchedd eu hunain.

 

Gan fabwysiadu Ffyrdd o Weithio WBFG 5, rydym yn cynnwys cymunedau yn ein prosiectau, fel eu bod yn deall yr ymyriadau a gynigir. Mabwysiadom y dull hwn ar ein prosiectau arobryn Rhiwbeina, Totnes a Bae Colwyn. Mae’r cyfranogiad hwn yn creu cyfnewidfeydd pontio’r cenedlaethau mewn dysgu cymdeithasol am sut i fyw gyda llifogydd, a ‘hydroddinasyddiaeth’ a fydd yn trawsnewid cydberthnasau cymunedau â dŵr.

Fel cyfrannwr gwybodaeth ac asiant newid, rydym yn arwain drwy esiampl. Yn 2019, llofnodom y Datganiad y Peirianwyr Strwythurol ar yr argyfwng hinsawdd, ac rydym yn hwyluso trafodaeth garbon drwy ein digwyddiadau Carbon Crunch blynyddol yn One Great George Street. Rydym yn edrych ymlaen at rannu ein gwybodaeth sy’n arwain y diwydiant gyda chi, eich cyflenwyr a chymunedau Cymreig, drwy David Viner, sydd wedi gweithio ar Banel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd, a Kim Yates sy’n arwain ein gwaith Carbon Niwtral. Rydym eisiau “troi’r llanw” ar yr argyfwng hinsawdd, ac rydym wedi cydweithio gydag Adeiladu Arbenigedd yng Nghymru i gael y corff hwn wedi’i enwi o dan Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Rydym yn grymuso staff i drafod, datblygu a rhannu syniadau ar sut i fynd i’r afael â’r argyfwng newid yn yr hinsawdd, fel y dangoswyd pan arweiniodd ein Proffesiynau Gyrfa Cynnar drafodaeth Yammer ar ‘Symudedd yn y Dyfodol a Mynd ar Drywydd yr Economi Ddi-garbon’.

.

Pa gamau ydych chi eisiau eu gweld gan ein harweinwyr?

Arweinyddiaeth glir ac integredig.

Beth sy’n rhoi gobaith i chi ar gyfer y dyfodol?

Yng Nghymru, mae gennym obaith mawr, fel y nodwyd yn y cyhoeddiad diweddar am Adran Newid yn yr Hinsawdd yn Llywodraeth Cymru.

Busnesau eraill

Gweld popeth

ACM Consultancy Services Ltd.

Siop Oxfam Abertawe

Miller Research (UK) Ltd

Fferm Langtons

Gweld popeth

Ychwanegu eich busnes

Dywedwch wrth ein harweinwyr sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar eich busnes, a pha gamau sydd eu hangen arnoch i fod yn rhan o’r ateb.

Ychwanegu eich busnes
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.