fbpx
Gwelwch bob busnes

Miller Research (UK) Ltd

Mae Miller Research (UK) Ltd yn ymgynghoriaeth arbenigol sy'n gweithio'n bennaf i'r sector cyhoeddus ac asiantaethau lled-gyhoeddus yn bennaf ar draws Cymru. Rydym yn darparu gwasanaethau ymchwil a gwerthuso er mwyn helpu ein cleientiaid i ddeall yn well y byd y maent yn byw ac yn gweithio ynddo.

Mae ein prosiectau yn eang, er hyn mae gan lawer ohonynt ffocws ar bolisi cyhoeddus a gwerthuso rhaglenni, sy'n ymdrin â phynciau fel cynaliadwyedd, lles, bwyd a ffermio, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.

 
PAM YDYCH CHI'N POENI AM YR HINSAWDD?

Rydym yn ymwybodol iawn bod ein ffordd bresennol o fyw yn anghynaliadwy. Mae newid hinsawdd yn elfen sylweddol o’r ‘bygythiad triphlyg’ y mae Cymru yn ei wynebu ar hyn o bryd, ar y cyd â Brexit a Covid-19. Os nad ydyn nhw yn cael eu datrys yn gyflym, mae cymunedau ledled Cymru yn debygol o ddioddef colli ffermydd a bywoliaethau, colli bioamrywiaeth, bygythiadau cynyddol gan lifogydd, a bygythiadau cynyddol i iechyd a lles y cyhoedd.

Mae materion hinsawdd ac amgylcheddol wrth wraidd yr hyn a wnawn – cynnal astudiaethau ymchwil a gwerthuso ar gyfer prosiectau ac ymyriadau a arweinir gan Lywodraeth Cymru (yn bennaf). Y tu hwnt i hyn, mae gennym dîm o weithwyr sydd wedi ymrwymo’n llwyr i gyfiawnder hinsawdd, cynaliadwyedd ac economi gylchol. Rydym ni’n mynd i’r afael â hyn y tu hwnt i’r gwaith sy’b cael ei gomisiynu gennym – gyda’n cwmni yn gweithredu o adeilad cwbl gynaliadwy, graddfa A+ EPC ac ynni-bositif, ar fferm ddefaid organig. Roeddem yn llofnodwyr gwreiddiol i siarter cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru ac rydym wedi cofrestru yn ISO14001 ers pum mlynedd – ac rydym bellach yn y camau olaf o ennill achrediad B Corp.

Ar hyn o bryd, mae’r busnes yn datblygu platfform i alluogi cymunedau i werthuso eu cynilion carbon ar y cyd. Credwn fod gan hyn y potensial i gael effaith wirioneddol gan ddefnyddio technoleg i gynhyrchu canlyniadau cadarnhaol.

PA FATH O WEITHREDU YDYCH CHI EISIAU’I WELD GAN EIN HARWEINWYR?

Rydym yn cydnabod y nifer o fentrau cadarnhaol sy’n digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Fodd bynnag, rydym yn pryderu am allu’r mentrau hyn i fod yn sylweddol effeithiol, o ran eu rhychwant a’u hamserlen.

Rydyn ni eisiau gweld ein harweinwyr yn ymrwymo i dargedau uchelgeisiol – ac rydyn ni eisiau iddynt fod yn atebol am eu gweithredoedd. Mae llawer o’r ffactorau sy’n cyfrannu at newid hinsawdd yn systemig, ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r rhai sydd mewn grym i wneud penderfyniadau blaengar.

Ar ben hynny, rydym am weld buddsoddi â blaenoriaeth yn yr economi gylchol, lle credwn fod cyfleoedd gwirioneddol i ariannu dyfodol cynaliadwy ac atal gwastraff diangen.

BETH SYDD YN EICH GWNEUD CHI’N OBEITHIOL AM Y DYFODOL?

Dysgu am y nifer o fusnesau, sefydliadau, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr sy’n dod at ei gilydd i weithredu’n gadarnhaol ynghylch yr achos hwn. Trwy ein gwaith ni, gwelwn nifer o enghreifftiau o’r mentrau sy’n ceisio lliniaru’r materion hyn trwy dechnolegau newydd, meddwl yn arloesol, a chydweithio traws-sector. Rydym wedi’n hysbrydoli gan yr enghreifftiau hyn ac yn gobeithio ymuno â nhw fel bod ein llais ar y cyd yn cael ei fwyhau.

Busnesau eraill

Gweld popeth

Small99

Greener Edge Ltd

Energy Local CIC

Zoë Binning Ltd

Gweld popeth

Ychwanegu eich busnes

Dywedwch wrth ein harweinwyr sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar eich busnes, a pha gamau sydd eu hangen arnoch i fod yn rhan o’r ateb.

Ychwanegu eich busnes
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.