
Idiom
Mae Idiom yn wasanaeth cyfieithu sy'n cynnig cyfieithiadau Cymraeg clir sy'n siarad gyda'ch cynulleidfa. Mae ein holl gyfieithiadau yn cael sylw manwl a phersonol er mwyn sicrhau y cewch destun Cymraeg o'r safon orau, sy'n gywir ac yn llifo fel Cymraeg byw.
Pam bod ots gennych chi am yr hinsawdd?
Sut all unrhyw un beidio poeni am yr hinsawdd? Y byd yw ein crud ni. Bydd newid hinsawdd yn troi ein byd yn blaned estron i ni ac i bob un bod arall. Mae’n ddinistr na wynebodd yr un genhedlaeth arall erioed o’r blaen.
Oes werth poeni am unrhyw beth os byddwn ni’n caniatáu i’r gwaetha ddigwydd?
Pam bod ots gennych chi am yr hinsawdd?
Mae angen haneru allyriadau carbon erbyn diwedd y ddegawd. Mae angen stopio talu am ddinistr ein hunig gartref drwy gymorthdaliadau. Mae angen stopio caniatáu tynnu unrhyw fwy o dannwydd ffosil o’r ddaear.
Mae angen gwir ymrwymiad i roi terfyn ar ddinistrio natur yn enw ‘datblygiad’. Mae angen newid economi’r byd i wasanaethu pobl ac i roi gwerth ar natur, ac nid i ddinistrio’n ddi-baid yn enw arian. Mae angen troi’n cefnau ar dwf diddiwedd unwaith ac am byth, a meithrin economi a fydd yn gadael byd a bywyd i’n plant.
Beth sy’n rhoi gobaith i chi am y dyfodol?
Bod gyda ni wyddonwyr sy’n gweithio’n ddiflino i geisio’n deffro ni cyn bydd hi’n rhy hwyr. A bod llawer mwy o bobl na feddyliech chi erbyn hyn yn ymwybodol, yn deall ac yn poeni. Dechreuwch sgwrs ac fe wneith pobl siarad.
Busnesau eraill
Gweld popeth
TrydaNi. Charge Place Wales Ltd

Sero Zero Waste

Limitless Energy

Always Aim High Events
Ychwanegu eich busnes
Dywedwch wrth ein harweinwyr sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar eich busnes, a pha gamau sydd eu hangen arnoch i fod yn rhan o’r ateb.
Ychwanegu eich busnes
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.