Hoci Cymru
Hoci Cymru yw'r Corff Llywodraethol Cenedlaethol ar gyfer hoci yng Nghymru, sy’n ceisio cyflwyno pob agwedd ar hoci mewn lleoliadau amrywiol, o ysgolion a chlybiau i golegau a phrifysgolion. Sefydlwyd Cymdeithas Hoci Cymru ym 1896 a Chymdeithas Hoci Menywod Cymru ym 1897 - unodd y ddwy Gymdeithas ym 1996 i fod yn Undeb Hoci Cymru ac ar 8 Medi 2003, fe'i cofrestrwyd fel cwmni, cyfyngedig drwy warant, yn Nhŷ'r Cwmnïau (04891518) fel Undeb Hoci Cymru Cyfyngedig. Yn 2011, newidiwyd ein henw masnachu i Hoci Cymru. Mae aelodau'n cynnwys Clybiau cofrestredig, Ysgolion a Chymdeithasau Cenedlaethol. Mae Hoci Cymru yn aelod o’r Ffederasiwn Hoci Rhyngwladol (FIH), Ffederasiwn Hoci Ewrop (EHF) a Phrydain Fawr.
Pam ydych chi'n poeni am yr hinsawdd?
Rydym yn gwerthfawrogi ac yn gofalu am genedlaethau’r dyfodol, ac rydym eisiau sicrhau ein bod ni’n sefydliad cynaliadwy sy’n gweithio tuag at leihau ein hôl troed carbon er mwyn sicrhau dyfodol i’n pobl ifanc.
Pa gamau ydych chi am eu gweld gan ein harweinwyr?
Ymrwymiad y gellir ei gyflawni drwy gefnogi sefydliadau i gyfrannu a bod yn rhan o’r newid, drwy ddadansoddi sefyllfa bresennol sefydliadau, addysg, darparu cymorth i newid ymddygiad a chefnogi newidwyr hinsawdd i wneud y newidiadau syml hyn a fydd yn arwain at ganlyniadau mawr. Yn fy marn i, os bydd pobl/sefydliadau yn cael eu harwain a’u cefnogi, byddant yn gwneud newidiadau’n fwy cyflym ac yn fwy effeithiol.
Beth sy'n rhoi gobaith i chi ar gyfer y dyfodol?
Y camau syml y gall pob un ohonom eu cymryd
Busnesau eraill
Gweld popethEnergy Local CIC
Phil Lambert, Artist
Adlington
Grŵp Cyfryngau a Digwyddiadau Orchard
Ychwanegu eich busnes
Dywedwch wrth ein harweinwyr sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar eich busnes, a pha gamau sydd eu hangen arnoch i fod yn rhan o’r ateb.
Ychwanegu eich busnesWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.