Byjo
Rwy'n dylunio ac yn gwneud gwahoddiadau hardd, cain a deunydd ysgrifennu priodas cynaliadwy gan ddefnyddio deunyddiau ecogyfeillgar ac wedi'u hailgylchu. Rwy’n lleihau gwastraff gymaint â sy’n bosib ac rwy’n addo nad ydw i’n defnyddio papur brown a chortyn ar gyfer popeth!
Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda chyplau lleol ond gallaf ddosbarthu i unrhyw le yn y DU.
Ar ôl bod ar daith bersonol i ddod yn fwy ymwybodol o’r hinsawdd fel teulu, rydw i’n awyddus i ddod â hyn i mewn i fy musnes hefyd. Mae priodasau yn ddrwg-enwog am wastraff ac rydw i eisiau gwneud fy rhan i helpu cyplau i gael diwrnod mawr sy’n fwy caredig tuag at yr hinsawdd, heb gyfaddawdu ar steil.
Hoffwn weld cyngor ymarferol ar ba gamau y gallwn ni i gyd eu cymryd yn ein bywydau o ddydd i ddydd er mwyn lleihau ein heffaith ar y blaned. Yn ogystal â’r ddeddfwriaeth, y cyllid a’r cyfleusterau i’n galluogi a’n hannog i wneud y newidiadau hynny.
Mae gweld newidiadau bach yn dechrau digwydd, busnesau’n dod yn fwy ymwybodol a defnyddwyr yn fodlon rhoi cynnig ar gynhyrchion a gwasanaethau amgen, mwy ecogyfeillgar, yn rhoi gobaith i mi ar gyfer y dyfodol.
Busnesau eraill
Gweld popethSweetmans a Phartneriaid
Emily Ward Wedding Photography
Limitless Energy
Climadapt
Ychwanegu eich busnes
Dywedwch wrth ein harweinwyr sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar eich busnes, a pha gamau sydd eu hangen arnoch i fod yn rhan o’r ateb.
Ychwanegu eich busnesWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.