Ben & Jerry’s
Fel actifyddion hufen iâ, mae Ben &Jerry's wedi ymrwymo i wneud yr hufen iâ gorau posibl yn y ffordd orau bosibl, a defnyddio eu llais i ymgyrchu dros faterion cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb.
Pam ydych chi'n poeni am yr hinsawdd?
Rydym yn deall bod newid yn yr hinsawdd y bygythiad unigol mwyaf i ecosystemau a rhywogaethau ein planed, ac i bob bywyd ar y Ddaear hefyd.
Fel cwmni hufen iâ nid-er-elw, rydym yn rhan o’r broblem, ond rydym wedi ymrwymo ein hunain i fod yn gatalydd ar gyfer atebion, o fewn ein busnes ac ar lefel polisi’r economi gyfan. Fel busnes gweithredol, rydym eisiau ysgogi pŵer pobl i alw ar eu harweinwyr i wneud newidiadau radical a sylweddol ar y mater cyfiawnder hinsawdd.
Rydym wedi bod yn ymgyrchu dros faterion cydraddoldeb a chyfiawnder cyhyd â’n bod ni wedi bod wrthi’n sgwpio hufen iâ, ac mae newid yn yr hinsawdd yn ymwneud llawn cymaint â chyfiawnder ag â nwyon tŷ gwydr. Oherwydd er bod newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar bob un ohonom, nid yw’n effeithio ar bob un ohonom yn gyfartal.
Mae’n eironi creulon mai cymunedau rheng flaen a brodorol oedd heb rôl mewn creu’r broblem hon, yw’r rheini sydd eisoes yn cael eu heffeithio gyntaf a gwaethaf gan newid yn yr hinsawdd. Mae’n rhaid inni roi materion sy’n ymwneud â thegwch a chyfiawnder wrth wraidd ein gofynion.
Rydym yn gweld effeithiau newid yn yr hinsawdd ar y nifer fawr o bobl rydym yn gysylltiedig â nhw fel busnes hefyd, gan gynnwys ein cyflenwyr Masnach Deg yn y de byd-eang, sydd mewn perygl go iawn o blaned sy’n cynhesu. Mae gennym gyfrifoldeb i ddefnyddio ein platfform i eirioli dros ddyfodol newydd.
Pa gamau ydych chi am eu gweld gan ein harweinwyr?
Rydym yn eiriolwyr ffyrnig dros bolisïau sy’n datgarboneiddio’r economi fyd-eang yn gyflym, yn unol â’r wyddoniaeth ddiweddaraf. Byddwn yn parhau i ddefnyddio ein dylanwad fel cwmni, a’r cysylltiad sydd gennym gyda’n cefnogwyr, i eirioli dros y polisïau canlynol:
- Rhoi pris ar garbon
- Lleihau allyriadau carbon (sy’n golygu lleihau tanwydd ffosil) o leiaf 45% erbyn 2030
- Pontio i 100% o ynni adnewyddadwy erbyn 2050
- Rhoi’r gorau i ddefnyddio glo yn gyfan gwbl
- Gadael tanwydd ffosil yn y ddaear
- Symud i ffwrdd yn llawn o’r diwydiant tanwydd ffosil
- Rhoi’r gorau i ddatgoedwigo hen goedwigoedd trofannol
- Mabwysiadu arferion amaethyddol adfywiol sy’n adfer ac yn cynnal iechyd pridd a dal a storio carbon
- Sicrhau cefnogaeth i liniaru ac addasu gwledydd sy’n datblygu
Busnesau eraill
Gweld popethFferm Langtons
Coffi Jenipher Cyf
Cylchgrawn Woop Woop
Rhwng Y Coed
Ychwanegu eich busnes
Dywedwch wrth ein harweinwyr sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar eich busnes, a pha gamau sydd eu hangen arnoch i fod yn rhan o’r ateb.
Ychwanegu eich busnesWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.