Authentic House
Nod Authentic House yw grymuso pobl i wneud newidiadau i fyw'n fwy cynaliadwy. Maen nhw’n cynnig oergelloedd cartref di-blastig a chynhyrchion hunanofal yn eu siop ar-lein, ac maen nhw’n rhedeg bocs tanysgrifio ecogyfeillgar misol. Maen nhw wedi plannu 2,600 o goed hyd yn hyn, ac yn rhedeg eu busnes bach o'u cartref yng Nghaerdydd.
Pam ydych chi’n pryderu am yr amgylchedd?
Rwy’n pryderu am y colledion i bobl a bywyd gwyllt rydym yn eu gweld yn sgil newid yn yr hinsawdd. Mae’n dristwch mawr gwybod ein bod ni wedi colli mwy na hanner ein bywyd gwyllt ers 1975, ac rwy’n poeni wrth weld y Ddaear yn mynd yn llai preswyliadwy i bobl hefyd, a’r materion y bydd hyn yn eu creu. Rwyf yn gyffrous hefyd am y potensial i greu cymdeithas newydd sy’n deg ac yn gynaliadwy, ac i chwarae fy rhan yn hyn o beth.
Pa gamau ydych chi eisiau eu gweld gan ein harweinwyr?
Rwyf eisiau gweld arweinwyr yn caniatáu i ddinasyddion arwain drwy sefydlu cynulliadau dinasyddion sydd â phŵer gwirioneddol. Rwy’n gyffrous am y treial Incwm Sylfaenol Cyffredinol yng Nghymru, gan y bydd yn caniatáu i fwy o bobl chwarae rhan yn eu cymunedau ac ymgyrchu dros faterion fel yr argyfwng hinsawdd. Hoffwn weld mwy o gefnogaeth i ail-wylltio’r tir a chaniatáu i natur adfywio mewn ardaloedd nad ydynt yn broffidiol ar gyfer ffermio neu mewn parciau cenedlaethol, yn hytrach na phori defaid arnynt.
Beth sy’n rhoi gobaith i chi ar gyfer y dyfodol?
Rwy’n obeithiol oherwydd yr holl bobl greadigol a phrosiectau cyffrous sydd ar y gweill – fel hwn! Mae pobl yn gallu ymaddasu’n ddiderfyn ac yn fwyfwy –ac rydym yn sôn yn fwyfwy aml am genedlaethau’r dyfodol a’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn hynafwr da. Gobeithio ein bod, yn y genhedlaeth hon, yn cyflawni’r addewid newydd hwn ac yn dod yn hynafiaid da, ac yn defnyddio ein gwybodaeth a’r amser sydd gennym ar ôl i atal yr argyfwng yn yr hinsawdd a chreu cymdeithas decach.
Busnesau eraill
Gweld popethPhil Lambert, Artist
Bwyd am Byth CIC
ETYC
Small99
Ychwanegu eich busnes
Dywedwch wrth ein harweinwyr sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar eich busnes, a pha gamau sydd eu hangen arnoch i fod yn rhan o’r ateb.
Ychwanegu eich busnesWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.