fbpx
Gwelwch bob busnes

Always Aim High Events

Mae Always Aim High Events yn cynnal digwyddiadau chwaraeon arobryn ledled Cymru, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Eryri ac Ynys Môn.

Mae eu hegwyddorion o roi'r amgylchedd wrth galon popeth a wnânt yn ffurfio eu canllawiau wrth ddylunio eu digwyddiadau. Maent yn ymfalchïo mewn cael eu harwain gan gwsmeriaid, cefnogi busnes lleol ac arddangos lleoliadau hyfryd Cymru, gyda ffocws penodol ar hyrwyddo arferion cynaliadwy a bod yn sensitif ac yn gyfrifol i'r rhan hardd hon o'r byd.

 
Pam ydych chi'n poeni am yr hinsawdd?

Mae’r amgylchedd naturiol yn bwysig, ar gyfer ein bywoliaeth, ein hiechyd a’n lles corfforol a meddyliol ac ar gyfer dyfodol y cymunedau sy’n cynnal ein digwyddiadau.

Rydym yn gweithredu mewn ardal sy’n cydbwyso cynefinoedd a daearyddiaeth unigryw, ochr yn ochr â’r galw mawr am weithgaredd hamdden; rydym yn gweld ein safle fel cyfle i chwarae rhan buddiol wrth hyrwyddo perthynas amgylcheddol gadarnhaol drwy addysg ac mewn partneriaeth â rhanddeiliaid eraill.

Pa gamau ydych chi am eu gweld gan ein harweinwyr?

Blaenoriaethu gwellad positif mewn cynefinoedd yn ogystal a iechyd a lles ym mhob polisi phenderfyniad. Cynnwys mwy o fewnbwn gwyddonol cymunedol ac annibynnol i lunio polisïau o’r fath.

Beth sy'n rhoi gobaith i chi ar gyfer y dyfodol?

Y bartneriaeth rhwng rhanddeiliaid, o’r llywodraeth trwy awdurdod lleol, cyrff anllywodraethol a grwpiau cymunedol lleol sy’n hyrwyddo cyfrifoldeb am gynnal ac adfywio’r amgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Yn bennaf oll, ymwybyddiaeth amgylcheddol y genhedlaeth iau; dull ffres a di-gysylltiad, gan herio status quo y llywodraeth a corfforaethau, wrth iddynt roi elw o flaen yr amgylchedd.

Busnesau eraill

Gweld popeth

Miller Research (UK) Ltd

Sweetmans and Partners

Slow Food Cymru

Grŵp Cyfryngau a Digwyddiadau Orchard

Gweld popeth

Ychwanegu eich busnes

Dywedwch wrth ein harweinwyr sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar eich busnes, a pha gamau sydd eu hangen arnoch i fod yn rhan o’r ateb.

Ychwanegu eich busnes
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.