8 Mawrth 2023
Annwyl Brif Weinidog,
Gweithredwch dros Natur, os gwelwch yn dda: rhaid cymryd camau brys i sicrhau ein bod yn trosglwyddo Cymru Natur Bositif i genedlaethau’r dyfodol a sicrhau mynediad at gyfiawnder amgylcheddol i bobl Cymru.
Rydym yn croesawu’r ymrwymiadau a’r camau cadarnhaol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, ond mae angen llawer mwy i sicrhau ymateb gan cymdeithas gyfan sy’n gyferbyniol â maint yr argyfwng natur a hinsawdd.
Natur yw ein system cynnal bywyd ac mae’n hanfodol i iechyd a lles cymunedau, yma yng Nghymru, ac o gwmpas y byd.
Ni yw un o’r gwledydd sydd wedi’i disbyddu fwyaf o ran natur yn y byd, mae ein bywyd gwyllt ar drai’n ddifrifol, gydag un o bob chwech o’n rhywogaethau mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru. Mae ecosystemau iach yn rhan gynhenid o’n systemau bwyd, ein hamddiffyniad rhag llifogydd, ac mewn dal a storio carbon a gwydnwch hinsawdd.
Mae angen inni drawsnewid y duedd hon a llywio adferiad byd natur nawr. Mae’r grym i wneud hyn yn eich dwylo chi. Gosododd COP15 genhadaeth fyd-eang i atal a gwrthdroi colled byd natur erbyn 2030 a chyflawni adferiad fel bod byd natur yn ffynnu unwaith eto erbyn 2050 gan ‘gynnal planed iach a darparu buddion sy’n hanfodol i bawb’.
Dyma ystyr Natur Bositif, ac fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang mae’n rhaid i Gymru chwarae ei rhan ei hun i gyflawni hyn; nod Natur Bositif gartref, ac o gwmpas y byd.
Cymru yw’r unig wlad sydd heb gymryd camau ystyrlon i lenwi’r bwlch llywodraethu amgylcheddol (ar ôl gadael yr UE). Nid oes gennym ni yn unig gorff annibynnol a all oruchwylio a gorfodi’r gwaith o gyflawni targedau ac amddiffyniadau amgylcheddol. Mae camau gweithredu i fynd i’r afael â hyn wedi’u gwthio’n ôl flwyddyn ar ôl blwyddyn yng Nghymru.
Rydym yn galw arnoch gyda’n gilydd i gynnal enw da Cymru fel arweinydd amgylcheddol a chyflwyno Bil eleni, yn rhaglen ddeddfwriaethol 2023-24, sy’n:
- Ymgorffori ymrwymiad i Gymru Natur Bositif yn y gyfraith, wedi’i hategu gan dargedau adfer byd natur sy’n rhwymo’n gyfreithiol.
- Sicrhau cyfiawnder amgylcheddol i bobl Cymru drwy sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol.
Rydym am i Gymru orffen y ddegawd gydag amgylchedd glanach, iachach sy’n gyfoethocach ei natur. Rhaid inni gynllunio llwybr at ddyfodol llewyrchus lle mae bywyd gwyllt yn ffynnu. Gyda natur mewn argyfwng, rydym wedi rhedeg allan o amser ar gyfer oedi pellach.
Llofnodwyd
Sam Ward
Rheolwr Climate Cymru
ar ran 300 o sefydliadau o fewn a thu hwnt i rwydwaith Climate Cymru

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.