Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ymuno â Ras i Sero Cymru: mae’n trawsnewid gallu cymunedau i weithredu ar yr hinsawdd.
Llun © Anthony Pease
Lluniwyd yr erthygl hon gan actifydd ym maes hinsawdd ynn nghymuned Bannau Brycheiniog, er mwyn hysbysu eraill yn y Parc Cenedlaethol am y cyfle anhygoel sydd ar gael inni oll nawr.
Ac os nad ydych chi’n byw yn neu’n dod o’r Parc Cenedlaethol, gallwch ymuno â’r ymgyrch cenedlaethol i roi pwysau ar eich awdurdod lleol chi i ymuno â’r Ras i Sero a chreu’r un cyfleoedd ichi.
Bannau Brycheiniog byd-eang
Lansiodd y Parc Cenedlaethol gynllun “enw’r gorffennol i fynd â ni i’r dyfodol”, gyda ffilm drawiadol gan Owen Sheers a berfformiwyd gan Michael Sheen. Denodd hanes yr enw Cymraeg sylw enfawr ar lefel fyd-eang: cafodd ei weld gan gannoedd o filiynau o bobl.
Ond nid dyna agwedd bwysicaf y stori. Roedd y Parc Cenedlaethol yn datgelu cynllun rheolaeth radical, gydag agwedd lawer mwy sylweddol tuag at newid hinsawdd nag a geisiwyd gan unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru.
Mae Bannau Brycheiniog yn y broses o ymuno ag ymgyrch y Ras i Sero a gefnogir gan y CU, y gynghrair fwyaf pwerus ym maes newid hinsawdd ledled y byd. Mae’r Ras i Sero yn darparu arfau, ysgogiad, craffu a chymorth angenrheidiol i lywodraethau lleol er mwyn symud ymlaen i weithredu mewn ffordd radical ar yr hinsawdd, yn ôl y targedau a gytunwyd yng Nghytundeb Hinsawdd Paris.
Yn ogystal, yn unol â chais Llywodraeth Cymru i barciau cenedlaethol Cymru fod yn “esiamplau wrth ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur”, mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi bod yn flaenllaw o ran sefydlu Ras i Sero Cymru er mwyn cyflymu’r ymgyrch yng Nghymru, gan gynnwys annog pob awdurdod lleol yng Nghymru i ymuno ag ymgyrch byd eang Ras i Sero.
Goblygiadau’r Ras i Sero ar gyfer gweithredu cymunedol ar yr hinsawdd: sef gweithredu ar yr argyfwng
Gadewch inni ddychmygu, yn ystod Covid, y dywedwyd wrthym nad oedd y Llywodraeth am ddweud wrthym beth ddylen ei wneud, ac y dylid trefnu trafodaethau lleol er mwyn penderfynu ar ein hymateb. Ar wahân i fod yn beth brawychus iawn, byddai wedi bod yn drychinebus. Mae’r un peth yn wir am yr argyfwng hinsawdd. Mae angen inni gael gwybod beth ddylid ei wneud yn ôl y dystiolaeth wyddonol. Wedyn gallwn weithio allan sut – ac mae hynny’n ddigon o her yn ei hunan.
Felly, y peth cyntaf a wnaeth y Parc Cenedlaethol – a dyma’r un peth y mae gofyn i bob llywodraeth leol sy’n rhan o’r Ras i Sero ei wneud – oedd gweithio allan beth yw’r broblem carbon, a beth yw’r targedau o ran lleihau carbon. Mae’r targedau hyn yn gweddu’n uniongyrchol i Gytundeb Hinsawdd Paris ac maent yn cael eu dilysu trwy’r Ras i Sero. Mae hyn yn hynod bwysig: y targedau hyn sy’n llywyddu, oherwydd fe’u seilir ar dystiolaeth wyddonol a chytundebau rhyngwladol mewn perthynas â rhannu’r ymdrech ar lefel fyd-eang. Nid yw’n bosibl eu trafod, oni bai ein bod cefnu ar nodau hinsawdd Paris.
Er hynny, mae’r targedau hyn yn mynd tu hwnt i’r norm yng Nghymru mewn tair ffordd sy’n trawsnewid gallu cymunedau i weithredu.
- Maent yn cynnwys yr holl allyriadau carbon, sy’n golygu popeth sy’n gysylltiedig â nwyddau a ddefnyddir gennym, ble bynnag maent yn cael eu cynhyrchu. Mae hyn yn atal twyllo, cuddio arferion llygru rhywle arall llai hyfryd na’n Parc Cenedlaethol, ond sydd yr un mor niweidiol oherwydd eu bod ar yr un blaned.
Arweiniodd y dadansoddiad hwn at ddau ganlyniad ysgytiol:
- O bell ffordd, mae’r ffynhonnell fwyaf o ran allyriadau carbon preswyl, 23%, yn rhywbeth nad ydym yn ei drafod i raddau helaeth – y carbon sy’n cael eu rhyddhau o’r bwyd a’r diodydd a ddefnyddir gennym. Mae’n fwy na’r carbon sy’n deillio o wresogi cartrefi, sef 16%, a thrafnidiaeth ddaearol, 19%. Yng Nghymru, rydym yn mewnforio cyfran helaeth o’r bwyd rydym yn eu bwyta (ac yn allforio’r rhan fwyaf o’r hyn a dyfir gennym), a datgymalu ein heconomi bwyd lleol trwy bolisïau’r llywodraeth megis y system cymorthdaliadau ffermio a’r rheolau cynllunio. Fel y dywedodd Philip Lymbery, Compassion in World Farming yng Ngŵyl y Gelli eleni, y system bwyd byd-eang rydym yn ei defnyddio sy’n gyfrifol am y defnydd uchaf o dir mewn unrhyw sector, defnydd uchaf o ran dŵr, sy’n gyfrifol am y datgoedwigo mwyaf, y nifer uchaf o rywogaethau’n diflannu, yr allyriadau carbon uchaf, ac am y llygredd mwyaf o safbwynt yr aer. Mae arnom angen economi bwyd newydd yn y Parc Cenedlaethol sy’n cefnogi cynhyrchu a defnyddio bwyd carbon isel sy’n gynaliadwy o safbwynt ecolegol.
- Mae trigolion y Parc Cenedlaethol yn gyfrifol am 22% mwy o allyriadau carbon na chyfartaledd y DU. Er enghraifft, rydym yn hedfan ar wyliau 57% yn uwch na’r cyfartaledd.
- Yr ail agwedd sy’n newid y gêm i raddau helaeth, yw bod y Parc Cenedlaethol yn troi’r rhain yn dargedau datgarboneiddio diriaethol ar gyfer y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf:
- Torri allyriadau sy’n deillio o deithio 39%
- Torri allyriadau sy’n deillio o ddefnydd bwyd 22%
- Torri allyriadau sy’n deillio o ddefnydd ynni 51%
- Torri allyriadau nad ydynt yn CO2 sy’n deillio o ddefnydd tir 31%
Y cam nesaf a’r olaf, fydd troi’r rhain yn dargedau gweithredu dealladwy ar gyfer cymunedau, megis nifer y cartrefi i’w hinsiwleiddio, neu’r trydan fydd yn cael ei gynhyrchu’n lleol. Mae’r gwaith yma’n cychwyn.
Mae’n debyg y bydd y targedau gweithredu’n hynod heriol. Yn aml, dywedir na ddylech godi gormod o fraw ar bobl, rhag ofn y byddant yn switsio i ffwrdd. Mae’r safbwynt yma’n anghywir. Ni wnaethon ni wneud hynny yn ystod Covid. Yr hyn sy’n ein parlysu yw bod heb gliw o ran yr hyn i’w wneud ynghylch perygl uniongyrchol a gweld neb unrhyw le’n ymddwyn fel petai argyfwng yn bodoli.
- Y drydedd agwedd sy’n newid pethau yn y Parc Cenedlaethol, yw’r ffaith eu bod yn derbyn, mewn argyfwng o’r lefel fygythiad hon, bod yn rhaid iddyn nhw ysgogi camau gweithredu nad oes adnoddau neu bwerau uniongyrchol ar gael i’w gweithredu. Os oes angen cyllid ychwanegol byddant yn ei geisio. Os oes angen pwerau newydd, wedyn bydd angen partneriaethau cadarn gyda’r sawl sydd â’r pwer. Mae ymddwyn fel petai argyfwng yn bodoli yn golygu ysgwyddo cyfrifoldeb am gael hyd i ffyrdd i ddiogelwch.
A dyna sy’n gyrru’r Parc Cenedlaethol i bartneriaethau, gan gynnwys gydag awdurdodau lleol, perchnogion tir, ffermwyr, cyrff anllywodraethol, ac yn bwysicach oll, gyda chymunedau lleol. Partneriaethau gwirioneddol lle rhennir yr ymdrech ar sail tystiolaeth a pharodrwydd i ddychmygu a chreu atebion ar y cyd. Oherwydd does dim ffordd arall.
Mae hyn yn creu sefyllfa hollol newydd ar gyfer ein cymunedau. Bellach bydd gennym dargedau pendant a gwyddonol na ellir eu trafod, i leihau carbon, a fynegir mewn telerau ymarferol er mwyn i bawb eu deall; ac wedyn cynnig o bartneriaeth gadarn gyda’r Parc Cenedlaethol i weithio allan gyda’n gilydd sut y byddwn yn bodloni’r heriau anhygoel hyn, a sut i gyllido’r newidiadau.
Ni all gweithredu ar yr hinsawdd wneud problemau eraill yn waeth
Nid newid hinsawdd yw’r unig her sy’n wynebu ein cymunedau. Mae adfer natur yn hollbwysig hefyd, felly hefyd lleihau’r llygredd ofnadwy oherwydd ffosffadau a nitradau yn ein hafonydd. Ac wedyn mae’r heriau cymdeithasol yn ogystal – tai, bwyd fforddiadwy, tlodi ac anghydraddoldeb, iaith, trafnidiaeth ac ati.
Mae angen datrys y rhain i gyd hefyd. Felly mae’n rhaid inni lunio atebion hinsawdd lleol sy’n cyfrannu canlyniadau cadarnhaol eraill hefyd. Mae insiwleiddio tai sy’n gollwng gwres yn enghraifft dda o fudd dwbl – mae’n mynd i’r afael â’r argyfwng mewn costau byw. Gall esiampl arall fod creu atebion bwyd lleol sy’n golygu bod bwyd maethlon yn fwy hygyrch ar gael i bobl ar incwm isel a chreu cartrefi fforddiadwy ar gyfer tyfwyr bwyd newydd.
Defnyddiodd Bannau Brycheiniog Doughnut EconomicsiI ddadansoddi’r ystod lawn o broblemau amgylcheddol a chymdeithasol yn y Parc Cenedlaethol, seilir yr holl gynllun rheolaeth newydd ar y dadansoddiad holistaidd hwn.
Mae’r un dull o weithio’n cael ei efelychu ar lefel gymunedol trwy “Gynlluniau Lle holistaidd”. Os gallwn gael safbwynt cyflawn, gallwn ddechrau fod yn hynod greadigol wrth greu atebion clyfar sy’n arwain at fwy nag un budd ar y tro.
Meithrin y bartneriaeth
Mae actifyddion ym maes hinsawdd yn y gymuned ym Mannau Brycheiniog fel minnau, ar hyn o bryd yn asesu arwyddocâd yr hyn a wnaeth y Parc Cenedlaethol – proses raddol yw! Mae grwpiau gweithredu lleol yn cael eu hadfywio, maent yn dechrau rhwydweithio gyda’i gilydd. Mae grym newydd yn dod i’r amlwg, a bydd yn arwain at bartneriaeth newydd a chadarn ymhlith cymunedau, a rhyngddyn nhw a’r Parc Cenedlaethol. Wrth i’n hyder a’n capasiti gynyddu, felly hefyd ein huchelgais a’n gallu i ymateb i’r heriau syfrdanol sydd ar y gorwel.
A thrwy’r Ras i Sero, bydd cymunedau ledled Cymru yn ein gwylio’n ofalus, yn ogystal â phobl ledled y byd sydd am ddysgu mwy amdanon ni trwy gynllun Hyrwyddwyr Hinsawdd Lefel Uchel y Cenhedloedd Unedig. Mae’r hyn sy’n digwydd yma yng Nghymru fach yn bwysig. Byddwn yn ymateb i’r dasg.
Ymunwch â ni ar y Ras i Sero!
Os ydych chi’n byw ym Mannau Brycheiniog, ac os ydych chi wedi darllen yr erthygl hon mor bell â hyn, cysylltwch â ni: racetozerobannau@gmail.com. O fis Medi, cynhelir sesiynau misol ar draws y Parc Cenedlaethol ar gyfer y sawl sy’n trefnu gweithredu ar yr hinsawdd yn eu cymunedau unigol.
Ac os nad ydych chi’n byw ym Mannau Brycheiniog, gallwch ymuno â Rhwydwaith hinsawdd Cymru fel unigolyn neu bartner. Os ydych chi eisoes yn gysylltiedig â’r rhwydwaith, ac eisiau derbyn rhagor o wybodaeth ar yr ymgyrch hon, anfonwch ebost atom: helo@climate.cymru gan ofyn ymuno â rhestr e-bostio ymgyrch Ras i Sero Hinsawdd Cymru.
Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu
Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.
Ychwanegu eich llaisWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.