fbpx

Awr Ddaear – Dod ynghyd dros ddyfodol gwell i natur, yr hinsawdd a phobl

27 Mawrth, 2021
Gan Rhia Danis

Mae WWF-Cymru yn gwahodd pobl i ymuno â’r ymgyrch symbolaidd i ddiffodd goleuadau yn eu cartrefi eleni ar nos Sadwrn 27 Mawrth, fel cyfle i gysylltu â’n planed.

Daeth Awr Ddaear yn sioe ysbrydoledig o gydgefnogaeth ac yn fudiad dros newid, gyda thirnodau amlwg fel yr Empire State Building, Tŵr Eiffel a Chanolfan Mileniwm Cymru’n diffodd eu goleuadau am yr awr.

Oherwydd y sefyllfa bresennol a’r cyfyngiadau symud, rydym wedi newid i ganolbwyntio ar gymryd rhan gartref. Eleni gallwch ddangos eich cefnogaeth trwy gymryd rhan yn unigol, gyda’ch aelwydydd, neu fel cymunedau.

Mae naw o bob deg o bobl sy’n cymryd rhan yn Awr Ddaear yn cael eu hysbrydoli i weithredu dros ein planed. Gall ymddangos mai bach yw effaith gweithredoedd unigol, ond gyda’i gilydd gallan nhw ysbrydoli newid.

Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae angen yn fwy nag erioed inni gysylltu â’n gilydd ac ysbrydoli gobaith i’r dyfodol.

Sut mae Cymru’n dathlu Awr Ddaear?

Yn WWF-Cymru, credwn ei bod hi’n hanfodol i fuddsoddi yn ein cymunedau. Dyna pam rydyn ni wedi cydweithio â grwpiau ledled y wlad i gefnogi’r ymgyrch.

Yn y cyfnod cyn Awr Ddaear, mae prosiect barddoniaeth a chelfyddyd stryd sy’n cynnwys plant ysgol lleol, WWF Cymru a Llenyddiaeth Cymru wedi troi tair wal ar adeiladau mewn tair tref yng Nghymru yn weithiau celf.

Erbyn hyn mae gan Dreorci, Aberteifi a’r Rhyl furluniau hardd sy’n darlunio’r dyfodol maen nhw eisiau ei weld. Mae’r murluniau, a grëwyd gan yr arlunydd stryd Bryce Davies o Peaceful Progress, yn pwysleisio pwysigrwydd mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur i genedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.

Mae’r sefydliad celfyddydol cymunedol, Celf ar y Blaen, yn cyhoeddi llyfr newydd i blant, sef ‘Llyfrgell Bywyd’, sydd wedi’i ysgrifennu gan Tamar Eluned Williams ac sydd â darluniadau hardd gan Andy O’Rourke.

Mae’r stori yn daith ddarganfod am yr hinsawdd a natur a dyfodol ein planed. Ochr yn ochr â’r llyfr ei hun, mae fideo animeiddiedig arbennig wedi cael ei greu a’r adroddwr yw’r naturiaethwr a chyflwynydd teledu blaenllaw o Gymru, Iolo Williams.

Mae Artis Cymuned yn arwain awr o fyfyrio ac ioga gydag arlliw dawns gyfoes. Crëwyd y sesiwn i ddod â’r teulu ynghyd. Bydd y tiwtor, Mike, ar Facebook yn fyw i arwain awr o ymlacio gan ddefnyddio’ch meddwl, eich corff a’ch enaid i gysylltu â chi’ch hun a gyda’r blaned.

Pam cymryd rhan?

Mae Awr Ddaear yn ddigwyddiad byd-eang sy’n ein hannog ni i gymryd cam yn ôl a dangos ein cefnogaeth i’n byd a’n cysylltiad iddo. Rydym wedi trin y Ddaear fel nwydd ac wedi gorddefnyddio’i hadnoddau ers yn rhy hir.

Mae angen i’r berthynas hon newid. Mae Awr Ddaear yn ein hatgoffa bod gobaith ac mae miliynau o bobl eraill o gwmpas y byd yn dewis bod yn rhan o’r ateb. Gyda’r holl heriau a gafwyd dros y flwyddyn ddiwethaf, mae angen yn fwy nag erioed inni ddod at ein gilydd, gwrando a chefnogi ein gilydd.

Mae Awr Ddaear yn annog pobl ledled y byd i ddiffodd eu goleuadau er mwyn tynnu sylw at yr argyfwng hinsawdd a natur. Ei nod yw sbarduno trafodaethau byd-eang sy’n darbwyllo unigolion, llywodraethau a busnesau i wella ein perthynas â byd natur, er mwyn iddo allu parhau i gynnal cenedlaethau’r dyfodol.

Bydd 2021 yn dyngedfennol o ran gweld sut rydym wedi ymadfer ar ôl y pandemig, a’r hyn sy’n cael ei wneud i greu dyfodol cynaliadwy. Gall pobl ifanc yng Nghymru gael effaith trwy gymryd rhan yn yr etholiadau ac ymgysylltu â’n maniffesto.

Gyda’r Deyrnas Unedig yn cynnal yr uwchgynhadledd COP26 hollbwysig ar yr hinsawdd, rhaid i Gymru ddangos arweinyddiaeth fyd-eang wirioneddol drwy osod ymrwymiadau uchelgeisiol i weithredu. Ni fydd hynny’n bosibl ond os ydym ni fel pobl ifanc yn cymryd rhan yn y mudiad.

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi creu pryderon ynghylch swyddi ac wedi amlygu’r angen am gymorth gwell i iechyd meddwl. Mae llawer ohonom wedi dysgu nad oes angen symud i ffwrdd o Gymru bellach er mwyn datblygu gyrfa. Daeth gweithio o bell yn norm, ond nid yw’r angen i warchod ein hamgylchedd erioed wedi bod mor agos.

Bydd yr ymgyrch am swyddi gwyrddach yn helpu ein heconomi, yn cyfrannu at ein nod o fod yn wlad gynaliadwy, ac yn gwarchod ein bywyd gwyllt. Trwy fuddsoddi mewn natur a mannau gwyrdd, daw Cymru’n wlad rydym yn falch ohoni.

Mae eleni’n flwyddyn dyngedfennol i Gymru. Bydd Etholiadau’r Senedd 21 yn pennu Llywodraeth nesaf Cymru a bydd ganddi gyfrifoldeb enfawr i gyflawni’r camau hanfodol mae eu hangen i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur yn y blynyddoedd i ddod. Credwn fod rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru sicrhau Cymru sy’n addas i genedlaethau’r dyfodol.

Mae maniffesto WWF-Cymru yn brwydro dros gymdeithas decach i’r genhedlaeth nesaf, ac eisiau gwneud Cymru’n genedl fwy cydnerth. Mae Awr Ddaear yn ein hannog ni i gynnal trafodaethau am ein planed a pha benderfyniadau rydym yn eu gwneud i’w gwarchod.

Cofrestru

I gymryd rhan, y cwbl mae angen ichi ei wneud yw diffodd unrhyw oleuadau diangen am 8:30pm am awr ar nos Sadwrn 27 Mawrth. Gallech hefyd:

  • wylio rhaglen David Attenborough ‘A Life on Our Planet’ os yw sianel Netflix gennych.
  • lawrlwytho ap Footprints WWF a chofrestru am her Awr Ddaear. Cewch wybod sut y gallwch chi wneud gwahaniaeth, un cam ar y tro.

Erbyn 2030, gallai natur a bywyd gwyllt fod yn ymadfer o’n cwmpas a gallem fod wedi lleihau ein hallyriadau’n sylweddol yng Nghymru. Fydd hyn ddim yn digwydd dros nos, ond mae gan bawb ran i’w chwarae er mwyn sicrhau hynny – mae Awr Ddaear yn lle da i ddechrau.

I weld sut y gall Cymru arwain y ffordd, ewch i #WWFCymruManifesto.

Byddwch yn rhan o’r sgwrs ar Twitter gan ddefnyddio’r hashnodau #EarthHourWales #AwrDdaear a’n dolen @wwfcymru.

Efallai hoffwch hwn hefyd

Gweld popeth

O’r Pridd i’r Enaid: Buddiannau Cudd Byw’n Gynaliadwy

Gwymon: Llanw o Newid i’n Dyfroedd Arfordirol

Gweld popeth

Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu

Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.

Ychwanegu eich llais
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.