fbpx

Ardaloedd gwyrdd ar gyfer iechyd meddwl: Adfywio Wrecsam

23 Medi, 2021
Gan Rhys Owen

Mae’r Prosiect Isadeiledd Gwyrdd yn Wrecsam wedi bod yn eithriadol o bwysig yn darparu bywyd newydd i ardaloedd awyr agored. Jacinta Challinor sydd yn rhedeg y prosiect, sydd yn partneru gyda’g Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac Cadwch Gymru’n Daclus i greu cydweithrediad unigryw, er mwyn mynd i’r afael a materion fel taflu sbwriel, gwellianau cynefin ac gweithredu cymunedol.

Mae’r prosiect wedi focysu yn ddwfn ar wella mannau gwyrdd trefol ym Mharc Caia a Plas Madoc; yn datblygu partneriaethau gwych gyda grwpiau cymunedol fel Maes Chwarae Antur Gwenfro ac Y Tir, yn ogystal a’g ysgolion fel Ysgol Cae’r Gwenyn. Mae’r partneriaethau wedi creu etifeddiaeth a fydd yn parhau am flynyddoedd drwy ddod â chymunedau yn agosach at natur a datblygu ymdeimlad o berchnogaeth o’r tir, a drwy hyn ymdeimlad o stiwardiaeth amgylcheddol.

Mae nodau y prosiect, fel amlinellwyd isod, yn seiliedig ar llesiant yr amgylchedd a’r bobl leol.

  • Gwella isadeiledd gwyrdd o fewn Parc Caia a Plas Madoc.
  • Creu strwythur plannu coed er mwyn lleihau lefel sŵn a’r effaith mae llygredd yn yr awyr yn ei gael ar hyd llwybr cludo prifwythiennol allweddol i fewn i Wrecsam.
  • Datblygu rhwydweithiau gwirfoddolwr o fewn Wrecsam er mwyn ymgyslltu’r gymuned ar meddylfryd o ofalu am, a gwella safon amgylcheddol o’u ardaloedd gwyrdd.

Mae unigrywiaeth y prosiect yn ddiamwys o glir tra’n ystyried ei natur o fod yn agored i ddarparu cefnogaeth i sefydliadau, ysgolion ac unigolion drwy gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Mae yna ddealltwriaeth clir bod ardaloedd gwyrdd yn bwysig i bob cenhedlaeth. Er hynny, mae pwysigrwydd y prosiectau sydd yn cael eu annelu at wella ansawdd bywyd pobl ifanc yn yr ardaloedd hyn nid yn unig yn ystum torcalonnus ar gyfer y diwrnod presennol, ond hefyd heb amheuaeth yn fantais ar gyfer y dyfodol. Drwy’r prosiectau hyn mae plant yn Wrecsam nawr yn ymgysylltu gyda natur, yn plannu coed ffrwythau mewn perllanau, neu dysgu am yr amrywiaeth o fywyd gwyllt sydd yn byw ar eu stepan ddrws.

Tu hwnt i’r effaith ar y plant yn y ddau ardal yw’r effaith ar y gymuned. Bu pob prosiect yn cynrychioli partneriaeth, ac wedi hynny buddsoddiad yn y staff a’r gwirfoddolwyr. Tra’n siarad am Maes Chwarae Antur Gwenfro, cawsant eu camol gan Jacinta:

“Maent wedi bod yn dysgu sut i reoli y tir yn draddodiadol yn ystod y haf, cymryd rhan yn creu’r ddôl yn y gwanwyn, ac yn fwy diweddar cyrsiau hyfforddi bladur”

Yn sicr, mae’r Proseict Isadeiledd Gwyrdd yn cynrychioli’r frwydr am fwy o weithrediad ynghlyn a’r hinsawdd drwy oleuedigaeth pobl a gwella cynefinoedd mewn mannau gwyrdd trefol. Os rydym yn cyflwyno gweithrediad hyn o dan arweiniad y gymuned yn ifanc, rydym yn gallu bod yn obeithiol byddai’n cael effaith ar agweddau pobl tuag at yr amgylchedd yn ddiweddarach yn eu bywydau. Mi ddylai Llywodraethau o amgylch y byd ddefnyddio prosiectau fel hyn fel eu ysbrydoliaeth ar gyfer datblygiadau cardanhaol yn ystod COP26.

Dysgwch fwy am y gwaith sydd yn cael ei wneud gan ymweld a thudalen Gweplyfr y Prosiect Isadeiledd Gwyrdd: https://www.facebook.com/Swyddog-Prosiect-Isadeiledd-Gwyrdd-Wrecsam-101807454788194/ 

Efallai hoffwch hwn hefyd

Gweld popeth

Rydym yn recriwtio – Pennaeth Cyfathrebu a Newid Naratif

Rydym yn recriwtio – Cydlynydd Adrodd Straeon a Chynnwys Digidol

Gweld popeth

Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu

Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.

Ychwanegu eich llais
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.