fbpx Ein targed 15167 o 10,000 Ychwanegwch eich llais

Sophie Whitmarsh

Helo, fy enw i yw Sophie. Rwy’n Curad (Offeiriad) yn yr Eglwys yng Nghymru. Rwy'n rhan o rwydwaith a chymuned Hazelnut, sy'n ceisio annog gofal wrth fod yn greadigol trwy brosiectau gardd a fferm gymunedol a phlanhigion yn yr eglwys.

Gwelwch bob llysgenhadon
YN EICH BARN CHI, BETH YW EIN ARWEINWYR YMA MEWN CYMRU, Y DU AC O AMGYLCH Y BYD ANGEN EI WNEUD I DDATRYS NEWID HINSAWDD?

Rwy’n siŵr bod yna lawer o bethau y mae angen i ni eu gwneud, ond rwy’n gredwr mawr mai ‘lleol’ yw’r allwedd. Mae angen i ni newid ein harferion, ailalinio ein hunain â’r blaned, arafu ein hunain ac ail-gysylltu â natur/creadigaeth. Mae angen i ni feddwl o ddifrif am yr hyn sydd gennym fel bodau dynol er mwyn goroesi a chymharu hynny â’r hyn sydd gennym ni mewn gwirionedd yn y gorllewin.

PAM YDYCH CHI WEDI DEWIS BOD YN LYSGENNAD AR RAN CLIMATE CYMRU?

Credaf mai rhan o fy ngalw fel offeiriad ordeiniedig yw arwain y ffordd drwy wneud gwahaniaeth i’r blaned ac i’r rhai sy’n cael eu gormesu a’u hesgeuluso o ganlyniad i newid hinsawdd. Bydd bod yn llysgennad dros Climate Cymru yn un ffordd y gallaf gyflawni’r rhan honno o’m galwad.

FEL CENEDL, BETH YDYCH CHI'N TEIMLIO RHAID I NI EI WNEUD I DDYLANWADU AR NEWID GWIRIONEDDOL?

Rwy’n credu bod gan ein llais cyflawn a’r gallu i ysgogi newid. Mae angen i Gymru siarad yn uchel, ac mae angen i ni wneud hyn yn fuan.

BETH SY'N GWNEUD EICH OBEITHIOL AM Y DYFODOL WRTH FEDDWL AM NEWID HINSAWDD?

Brwdfrydedd llwyr y bobl o’m cwmpas i wneud newid.

Llysgenhadon eraill

Gweld popeth

Robert Winter

Ambassador - No photo available

Matt

Leo

Gweld popeth

Ymuno â’r mudiad

Os ydych chi’n angerddol am greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd, dewch yn rhan o’n hymgyrch, a helpu i roi llais i bobl Cymru ar yr hyn sy’n digwydd nesaf.

Dod yn llysgennad
""
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.