Rajsri
Mae Rajsri yn fyfyriwr o Gaerdydd sy'n wirioneddol o awyddus i gyfrannu beth bynnag sy'n bosibl i'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Mae hi'n aelod o grŵp ymgynghori Youth Climate Ambassadors.
Gwelwch bob llysgenhadonYn eich barn chi, beth mae angen i'n harweinwyr yma yng Nghymru, y DU ac ar draws y byd ei wneud i ddatrys newid hinsawdd?
Credaf fod gwir raid i’n harweinwyr ddechrau cymryd camau diffiniol, trwy basio biliau a rhoi mesurau clir ar waith i leihau ein hôl troed ecolegol, oherwydd po fwyaf o amser a wastraffir wrth ohirio gweithredoedd ac anwybyddu’r broblem o newid hinsawdd, y mwyaf tebygol ydyw bydd y byd methu â adfer.
Pam ydych chi wedi dod yn llysgennad Climate Cymru?
Rwyf wedi dod yn llysgennad Climate Cymru gan fy mod yn credu ei bod yn ffordd wych o allu cyfrannu at y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, ac mae arwyddocâd y mater yn ei gwneud yn fwy perthnasol nag erioed i ddechrau gweithredu a gwneud newid.
Fel cenedl, beth ydych chi'n teimlo sydd angen i ni wneud i ddylanwadu go iawn ar newid?
Rwy’n teimlo bod angen i ni ddechrau gweithio gyda’n gilydd, o fewn y genedl a hefyd tu allan iddo er mwyn cyflwyno ffrynt unedig byd-eang yn erbyn newid hinsawdd. Bydd gwrthdaro mewnol mond yn peryglu hyn, a gan fod newid hinsawdd yn wir yn argyfwng byd-eang, dim ond trwy gydweithredu a chydweithio y gallwn ni wir newid agwedd y byd tuag at y mater, a lledaenu’r neges ynghylch pa mor bwysig yw’r ffaith ein bod yn gweithredu. nawr.
Beth sy'n eich gwneud chi'n optimistig ar gyfer y dyfodol o ran newid yn yr hinsawdd?
Yn fwyaf diweddar, yr hyn sy’n fy ngwneud yn optimistic yw ffordd gwelsom wledydd yn gweithio gyda’i gilydd o dan achos cyffredin yn ystod y pandemig. Mae’r ffordd y gwnaeth pobl helpu eu gilydd wedi creu gobaith ar gyfer y dyfodol, gan ein bod ni’n gwybod nawr ei bod hi’n bosibl i’r byd uno, ac felly’n bosib curo newid hinsawdd, a helpu ein planed i wella.
Llysgenhadon eraill
Gweld popethEllie
Adebayo Adetunji
David Williams
Ymuno â’r mudiad
Os ydych chi’n angerddol am greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd, dewch yn rhan o’n hymgyrch, a helpu i roi llais i bobl Cymru ar yr hyn sy’n digwydd nesaf.
Dod yn llysgennadWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.