fbpx Ein targed 15496 o 10,000 Ychwanegwch eich llais

Rachel

Mae Rachel yn fam i ddau oedolyn, yn athrawes, ac yn rhywun sydd bob amser wedi mwynhau bod yn yr awyr agored, mwynhau golygfeydd naturiol a bywyd gwyllt. Mae hi'n dod o ogledd ddwyrain Cymru, ac er ei bod hi wedi byw i ffwrdd, symudodd yn ôl i fod yn agos at ei theulu pan oedd ei phlentyn hynaf yn ifanc iawn. Mae hi'n lwcus i fyw yn rhywle lled-wledig, ac mae hi’n treulio llawer o amser yn cerdded yn yr ardal leol, ac yn edrych allan am fywyd gwyllt gwych Cymru a'r ymwelwyr a gawn ar draws y tymhorau. Mae hi'n hoffi ceisio tynnu llun o hyn, ond dim ond am hwyl. Mae hi’n mynd â chasglwyr sbwriel allan gyda hi'n rheolaidd hefyd. Mae ei theulu wedi cefnogi gwyliau gartref, hyd yn oed cyn i bobl gael eu gorfodi i'w cymryd. Mae gwyliau traeth iddyn nhw yn golygu archwilio twyni tywod a phyllau creigiau. Mae'n sicr yn deg dweud bod y teulu cyfan yn edrych ar ôl yr amgylchedd ac yn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Gwelwch bob llysgenhadon

Ar ôl cael eu hysbrydoli gan y Streiciau Hinsawdd Ieuenctid (y cymerodd ei phlant ran ynddynt), fe wnaeth y teulu cyfan droi’n figan ddwy flynedd a hanner yn ôl, ac roedd yn llawer haws nag yr oeddent yn meddwl y byddai! Er eu bod wedi gwneud y pethau bychain o’r blaen – didoli eu hailgylchu a lleihau eu gwastraff – maen nhw wedi ymrwymo ers hynny i wneud hyd yn oed mwy i wrthbwyso eu hôl troed carbon, gan gynnwys newid i gyflenwr ynni adnewyddadwy, gwneud cyfraniadau ychwanegol i ganiatáu i’w carbon gael ei wrthbwyso, lleihau’r defnydd o geir, creu gardd bywyd gwyllt a meddwl yn ofalus yn gyffredinol am y pethau maen nhw’n eu prynu ac o ble.

YN EICH BARN CHI, BETH SYDD ANGEN I'N HARWEINWYR YMA YNG NGHYMRU, Y DU AC AR DRAWS Y BYD EI WNEUD I DDATRYS NEWID YN YR HINSAWDD?

Mae angen i’n harweinwyr roi’r gorau i anwybyddu’r pwnc newid yn yr hinsawdd. Mae angen iddynt roi’r gorau i feio neu gyhuddo gwledydd eraill, a bwrw ymlaen â’r gwaith o wneud y newidiadau y gallan nhw eu hunain eu gwneud. Gall Cymru fod yn enghraifft y mae eraill eisiau ei ddilyn. Gallant ddechrau’n ymarferol iawn, drwy gyflwyno polisïau ‘prynu’n lleol’ ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Mae Cymru’n cynhyrchu bwydydd anhygoel, a dylai awdurdodau a sefydliadau lleol fod yn cyrchu’r hyn y gallant gan gynhyrchwyr mor lleol â phosibl iddynt. Dylem annog a chefnogi ffermwyr i ofalu am y tir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, i ganolbwyntio ar ddulliau adfywio. Dylai’r llywodraeth gyflwyno cyfreithiau i ddiogelu ein gwrychoedd a’n glaswelltiroedd yn well. Yn hytrach nag adeiladu ffyrdd ar draws tir sy’n llawn bioamrywiaeth, dylai’r llywodraeth fod yn buddsoddi mewn gwell trafnidiaeth gyhoeddus ac yn gwobrwyo ei ddefnyddio. Dylai pobl sy’n gollwng sbwriel fod yn destun dirwyon uwch, a buaswn yn sicr yn hoffi i’n llywodraeth gyflwyno cynlluniau dychwelyd poteli plastig.

PAM YDYCH CHI WEDI DOD YN LLYSGENNAD CLIMATE CYMRU?

I osod esiampl i eraill: dangos nad oes rhaid i chi fod yn ‘fath penodol’ o berson i gymryd rhan. Dylai unrhyw un a phawb chwarae eu rhan i sefyll dros ein planed!

FEL CENEDL, BETH YDYCH CHI'N TEIMLO SYDD ANGEN I NI WNEUD I DDYLANWADU GO IAWN AR NEWID?

Mae angen inni gyfleu’r neges i bawb fod gan bob un ohonom ran i’w chwarae mewn dylanwadu ar newid. O unigolion a chymunedau, i gorfforaethau a’r llywodraeth. Gall pob un ohonom ddylanwadu ar ein gilydd, nid yn unig drwy ymgyrchoedd, ond drwy ein camau a’n gweithredoedd.

BETH SY'N EICH GWNEUD CHI’N OPTIMISTIG AR GYFER Y DYFODOL O RAN NEWID YN YR HINSAWDD?

Rwy’n obeithiol ar gyfer y dyfodol, yn gyntaf oherwydd bod y genhedlaeth iau, y rheini sy’n cael eu heffeithio fwyaf, nid yn unig yn cymryd yr argyfwng hinsawdd o ddifrif, ond maen nhw’n cymryd y cam cyntaf, ac yn gwneud rhywbeth i wneud i’r rheini sydd mewn grym i wrando. Yn ail, ac rwy’n credu oherwydd y safiad y mae pobl ifanc wedi’i chymryd, mae mwy o bobl yn dechrau cymryd mwy o gyfrifoldeb am eu gweithredoedd eu hunain: newid deiet; newid sut/faint maen nhw’n teithio; newid i gyflenwyr ynni adnewyddadwy; lleihau gwastraff. Mae’r rhain yn rhesymau dros fod yn optimistaidd.

Llysgenhadon eraill

Gweld popeth

Maham

Shenona

Laura Jackson

Gweld popeth

Ymuno â’r mudiad

Os ydych chi’n angerddol am greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd, dewch yn rhan o’n hymgyrch, a helpu i roi llais i bobl Cymru ar yr hyn sy’n digwydd nesaf.

Dod yn llysgennad
""
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.