fbpx Ein targed 14786 o 10,000 Ychwanegwch eich llais
Llysgenhadon ifanc

Lily

Mae Lily yn dair ar ddeg oed ac yn dod o Abertawe. Mae hi'n ymwneud â theatr gerddorol y tu allan i'r ysgol, yn chwarae'r ukulele, ac mae hi’n llysfwytäwr, er mwyn ceisio atal creulondeb yn erbyn anifeiliaid a lleihau'r defnydd o dir amaethyddol.

Gwelwch bob llysgenhadon
Yn eich barn chi, beth sydd angen i’n harweinwyr yma yng Nghymru, y DU ac o gwmpas y byd ei wneud i ddatrys newid yn yr hinsawdd?

Mae’n rhaid i arweinwyr ar draws y byd, yn syml iawn, ddechrau cymryd newid yn yr hinsawdd yn fwy difrifol. Yng ngeiriau Greta Thunberg ‘I want you to act as you would in a crisis. I want you to act as if our house is on fire. Because it is.’ Mewn geiriau eraill, mae’n rhaid i’r arweinwyr flaenoriaethu newid yn yr hinsawdd yn anad dim, gan ei fod yn un o’r bygythiad mwyaf i’n byd, os nad y mwyaf. Rwy’n credu hefyd, bod angen rhoi mwy o gyfreithiau a chyfyngiadau ar waith i weithredu ffordd fwy ecogyfeillgar o fyw. Bydd canlyniadau fel dirwyon yn atal nifer fawr o ddifrod i’r blaned.

Pam ydych chi wedi dod yn Llysgennad Climate Cymru?

Rwyf wedi dod yn llysgennad Climate Cymru, gan fod yr argyfwng hinsawdd wedi cyrraedd pwynt lle nad yw llofnodi deisebau ac annog eraill i ‘droi’n wyrdd’ yn ddigon. Mae angen cymryd camau llym er mwyn achub y blaned yn ystod y degawd bras diwethaf sydd ar ôl gennym ac felly, rydw i eisiau gwneud cymaint ag y gallaf i achub ein planed.

Fel cenedl, beth ydych chi’n teimlo sydd angen i ni ei wneud i ddylanwadu ar newid go iawn?

Bydd ymwybyddiaeth yn bendant yn dylanwadu ar newid. Mae’n syndod nad oes gan y rhan fwyaf unrhyw syniad y bydd yr argyfwng hinsawdd yn troi’n rhywbeth parhaol, ac y bydd yn anochel, yn gwaethygu os na fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd er mwyn ei ddatrys yn ystod y ddegawd nesaf. Pe bai mwy o erthyglau a blogiau’n cael eu creu amdano mewn pethau fel papurau newydd a fforymau ar-lein, a’n bod ni’n cael ein haddysgu am y pethau hyn yn yr ysgol, rwy’n teimlo y byddai pobl yn fwy ymwybodol a grymus i wneud newid.

Beth sy’n eich gwneud chi’n optimistig ar gyfer y dyfodol mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd?

Mae cymaint mwy o bobl yn dysgu am yr argyfwng hinsawdd, ac mae’n dod yn sgwrs sydd yn cael ei chlywed yn aml.  Rwy’n teimlo bod fy nghenhedlaeth i’n dechrau sylweddoli effeithiau cannoedd o flynyddoedd o allyriadau carbon; rydym eisiau i’n plant ni, a’u plant nhw, a’u plant nhw fyw mewn byd sy’n llawn natur a daioni, ac rwy’n gwybod bod gennym y gallu i wneud iddo ddigwydd.

Llysgenhadon eraill

Gweld popeth

Rob

Robert Winter

Lucy Meredith

Gweld popeth

Ymuno â’r mudiad

Os ydych chi’n angerddol am greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd, dewch yn rhan o’n hymgyrch, a helpu i roi llais i bobl Cymru ar yr hyn sy’n digwydd nesaf.

Dod yn llysgennad
""
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.