fbpx Ein targed 14787 o 10,000 Ychwanegwch eich llais

Laura Jackson

Rwy'n anelu at fod yn beiriannydd gyda ffocws cryf ar ynni a chynaliadwyedd. Mae Sir Benfro yn ardal sydd wedi cael ei dominyddu gan gynhyrchu ynni petrocemegol ar gyfer cenhedlaeth y gorffennol ond mae gobaith ar y gorwel bydd y sefyllfa yn newid. Mae nifer o gwmnïau a sefydliadau ynni adnewyddadwy yn datblygu technoleg i helpu i siapio dyfodol, nid yn unig ein cymuned ni, ond ar gyfer y DU gyfan ar ei ffordd i net sero.

Rwy'n fyfyriwr peirianneg yn anelu at weithio ym maes ynni adnewyddadwy yn Sir Benfro a byddaf yn siarad ag unrhyw un a fydd yn gwrando am gynaliadwyedd. Rwy'n fam i 3 o blant ifanc, a rydym yn eu hannog i fyw mor gytûn ag yn bosibl â'r byd o'u cwmpas.

Gwelwch bob llysgenhadon
YN EICH BARN CHI, BETH MAE ANGEN I’N HARWEINWYR YMA YNG NGHYMRU, Y DU AC O AMGYLCH Y BYD EI WNEUD I DDATRYS NEWID HINSAWDD?

Mae nifer o gwmnïau a sefydliadau ynni adnewyddadwy yn datblygu technoleg i helpu i siapio dyfodol, nid yn unig ein cymuned ni, ond ar gyfer y DU gyfan ar ei ffordd i net sero.

Mae’r cwmnïau hyn angen cefnogaeth o’r brig i lawr i’w galluogi i barhau i weithio o fewn Cymru. Byddai hyn yn galluogi Cymru i ddod yn gystadleuydd yn y farchnad fyd-eang ar gyfer ynni adnewyddadwy yn darparu swyddi, hwb i’r economi a balchder yn ein gwlad.

Rwy’n teimlo bod gwybodaeth yn allweddol ac mae’n hanfodol hysbysu pawb o lunwyr polisi allweddol i’m cymydog oedrannus drws nesaf am sut y gallant chwarae eu rhan i wneud newidiadau cadarnhaol i Gymru. Fe wnaethon ni ‘ddilyn y wyddoniaeth’ trwy’r pandemig, nawr mae angen i ni wneud yr un peth trwy argyfwng amgylcheddol.

PAM YDYCH CHI WEDI DEWIS BOD YN LLYSGENNAD DROS CLIMATE CYMRU?

I ddangos y gall unrhyw un hyrwyddo sut i atal newid hinsawdd. Hyd yn oed Mam wrth gludo’i phlant i’r ysgol.

FEL CENEDL, BETH YDYCH CHI'N TEIMLO FOD RHAID I NI EI WNEUD I GAEL DYLANWAD GWIRIONEDDOL ER NEWID?

Rhaid cael cyfleoedd i bawb gael gwybod sut y gallant wneud gwahaniaeth ar raddfa unigol.

BETH SY'N EICH GWNEUD CHI YN OBEITHIOL AM Y DYFODOL O RAN NEWID HINSAWDD?

Gweld llywodraeth leol yn cefnogi cynnydd o ran datblygu cwmnïau (ynni mwy gwyrdd).

Llysgenhadon eraill

Gweld popeth

David Jones

Autumn

Maham

Gweld popeth

Ymuno â’r mudiad

Os ydych chi’n angerddol am greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd, dewch yn rhan o’n hymgyrch, a helpu i roi llais i bobl Cymru ar yr hyn sy’n digwydd nesaf.

Dod yn llysgennad
""
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.