Felix
Rwy'n 21 oed ac wedi cael fy magu yng Nghaerdydd, ar ôl mynychu Ysgol Glantaf. Dros y blynyddoedd, rwyf wedi ymgyrchu dros ostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed ac i'r Deyrnas Unedig barhau'n aelod o'r UE. Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio i'r Pwyllgor Datblygu Economaidd, corff myfyrwyr plaid y Bobl Ewropeaidd yn Senedd Ewrop, yn llywio penderfyniadau polisi a chynigion. Ar hyn o bryd, rwy'n fyfyriwr prifysgol yn Llundain, yn astudio Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol ac Economeg, ac yn Swyddog Cadet hefyd. Ar ôl graddio o’r brifysgol, rwy'n gobeithio gadael Sandhurst yn Swyddog i Gorfflu Awyr y Fyddin fel peilot. Am y tro, rwy’n canolbwyntio ar weithio gydag UG'AS i wthio i Gymru fod y genedl garbon niwtral gyntaf y DU, ac i ail-gyflwyno'r cynllun sgrapio ceir yn ogystal â phlannu 1 miliwn o goed yn y 5 mlynedd nesaf.
Gwelwch bob llysgenhadonYn eich barn chi, beth sydd angen i'n harweinwyr yma yng Nghymru, y DU ac ar draws y byd ei wneud i ddatrys newid yn yr hinsawdd?
Mae angen iddynt fod yn fwy uchelgeisiol ac arloesol, gyda pholisïau sy’n cymryd camau uniongyrchol i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl. Mae pethau fel opsiynau trafnidiaeth werdd yn hanfodol, yn ogystal â symud yn gyflym i ddatblygu’r dechnoleg angenrheidiol i greu fersiynau gwell o gerbydau trydan a cherbydau hybrid. Dylid rhoi blaenoriaeth hefyd, i gynllun dychwelyd poteli plastig a gwydr, i’w gyflwyno ar hyd yr un capasiti â chenhedloedd yr UE.
Pam ydych chi wedi dod yn llysgennad Climate Cymru?
Hoffwn hyrwyddo agenda Climate Cymru, a chymryd rhan mewn trafodaethau parhaus ar sut i wella polisi a gweithredu o fewn cyrff y llywodraeth.
Fel cenedl, beth ydych chi'n teimlo sydd angen i ni wneud i ddylanwadu go iawn ar newid?
Rhoi pwysau ar y pleidiau gwleidyddol i fabwysiadu polisïau hinsawdd trawsbleidiol sydd wedyn, yn sicr o gael cymorth ac o gael eu gweithredu.
Beth sy'n eich gwneud chi’n optimistig ar gyfer y dyfodol o ran newid yn yr hinsawdd?
Y symudedd cymdeithasol presennol sydd wedi ymgasglu o gwmpas polisi amgylcheddol a newid yn yr hinsawdd.
Llysgenhadon eraill
Gweld popethDavid
Valerie
Andrew Law Pryce
Ymuno â’r mudiad
Os ydych chi’n angerddol am greu dyfodol gwell i gymunedau yma yng Nghymru ac ar draws y byd, dewch yn rhan o’n hymgyrch, a helpu i roi llais i bobl Cymru ar yr hyn sy’n digwydd nesaf.
Dod yn llysgennadWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.