Aethom â’ch lleisiau i COP26!
Treuliodd Climate Cymru bythefnos brysur yn y Parth Glas, man negodi canolog COP26, yn cysylltu ag Aelodau’r Senedd, y wasg, sefydliadau clymbleidiol eraill ac ystod helaeth o ddigwyddiadau Cymreig i sicrhau bod eich llais wedi’i glywed!
Cafodd Climate Cymru sylw ar yr holl orsafoedd teledu a radio mawr yng Nghymru drwy gydol y gynhadledd, yn ogystal â’r wasg ddigidol ac wedi’i hargraffu, felly gobeithio eich bod wedi gweld ychydig o hynny.
Bûm yn eich diweddaru bob dydd i gysylltu â’r gynhadledd, a chawsoch awgrymiadau am sut allech chi wneud gwahaniaeth i’r negodi, hyd at y funud olaf – a thra bod miloedd ohonoch chi wedi bod i brotestiadau yng Nghymru ar 6 Tachwedd, roeddem ni’n gorymdeithio yn Glasgow!
Gwnaethom hefyd ail-greu ein cerflun rhew hyfryd a oedd yn y Senedd gyda’n hymgyrchoedd partner yn yr Alban a Lloegr y tu allan i brif leoliad COP26; cerflun calon rew 2 fetr o uchder, a oedd yn pwyso tunnell. Cafodd sylw yn y Guardian a gan y BBC. Dyma fideo byr. .
Ar 9 Tachwedd, roeddem yn falch iawn o drefnu digwyddiad panel gyda Climate Scotland i gynulleidfa lawn yn fyw ac ar-lein, oedd yn ymwneud â’ch lleisiau chi. Cadwch lygad ar y dudalen hon i weld recordiad o’r sesiwn honno, lle gwnaethom chwarae ein neges fideo i’n harweinwyr i Lee Waters, Dirprwy Weinidog dros yr Hinsawdd.
Gwnaethom hefyd sicrhau bod unrhyw un a ddaeth i’n stondin yn yr Ardal Werdd yn gallu gwylio fideo estynedig o’r neges fideo neges i’n harweinwyr, gan gynnwys y cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones. Gwnaethom yn siŵr fod pobl Cymru’n poeni’n arw am newid hinsawdd.
Ar 11 Tachwedd, cyflwynodd Climate Cymru o COP26 i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith. Roedd y weminar yn un awr o hyd yn amlinellu lleisiau Climate Cymru, a disgrifiodd un gwyliwr rheolaidd y sesiynau hynny fel y rhai mwyaf cyffrous. Mae ar gael i’w gwylio ar-lein yma.
Diolch yn fawr i’r partneriaid Cadw Cymru’n Daclus a Brighter Futures am roi croeso i Llyr Gruffydd AS y bore hwnnw yn Rhyl, yn rhan o’r digwyddiad.
Ar 12 Tachwedd, diwrnod olaf COP26, cafodd y fideo ei dangos eto yn y digwyddiad Cenedlaethau’r Dyfodol. .
Cafodd y gwaith celf hyfryd isod ei ysbrydoli gan leisiau Climate Cymru. Mae wedi’i arysgrifio gyda lleisiau Climate Cymru a bydd wedi ei leoli yn swyddfa cabinet Mark Drakeford, fel rhywbeth i’w atgoffa i ystyried lleisiau cenedlaethau’r dyfodol a phobl Cymru?
Beth sydd nesaf i Climate Cymru?
Dechreuodd Climate Cymru fel ymgyrch COP26 ond mae wedi dod yn llawer mwy na hynny. Bellach, mae gennym rwydwaith mwy pwerus ble gallwn yrru newid. Rydym wedi creu man canolog i sefydliadau ac unigolion o Gymru ddod at ei gilydd.
Byddwn yn anfon arolwg byr atoch o fewn yr ychydig ddyddiau nesaf i ddysgu beth yw’r ffordd orau y gallwn gyflymu’r symudiad at sero net, creu Cymru sy’n bositif o ran natur, a sicrhau bod hynny’n digwydd yn deg, gydag ystyriaeth i bobl Cymru.
Yn y cyfamser, rydym yn parhau i gofrestru partneriaid, llysgenhadon a busnesau newydd, rydym yn dal i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, trafod materion ar y cyfryngau cymdeithasol a gwneud gwaith ymgysylltiad cymunedol…
Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu
Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.
Ychwanegu eich llaisWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.