fbpx

Adfer y mawnogydd, mawn wrth fawn

24 Medi, 2021
Gan Rhys Aneurin, RSPB Cymru Communications Officer

Hawdd yw digalonni wrth feddwl am yr heriau enfawr sy’n ein hwynebu o ganlyniad i’r argyfwng. Ond pwysig yw dathlu’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud ledled Cymru i fynd i’r afael â’r argyfyngau hyn, i godi ymwybyddiaeth ac i annog eraill i ymuno yn y gwaith yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn.

Mae’r Glymblaid Hinsawdd, ein clymblaid partner ledled y DU, yn cynllunio’r Wythnos Werdd Fawr – galwad genedlaethol am weithredu ar newid yn yr hinsawdd. Bydd miloedd o ddigwyddiadau cymunedol ledled y DU yn cael eu cynnal rhwng 18 a 26 Medi a fydd gyda’i gilydd yn codi ymwybyddiaeth o’r argyfyngau byd natur a hinsawdd ac yn helpu i adeiladau momentwm ar gyfer COP26 yn ddiweddarach eleni. Mae Climate Cymru yn cefnogi hyn gyda channoedd o ddigwyddiadau ledled Cymru.

Fel rhan o’r wythnos, mae Climate Cymru yn cyflwyno Y Daith Werdd – taith ffordd o amgylch Cymru mewn cerbydau trydan, gan arddangos straeon ysbrydoledig o gymunedau sydd ar flaen y gad o ran mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yng Nghymru. Un o’r ardaloedd y byddant yn ymweld â hi yw ein gwarchodfa RSPB Llyn Efyrnwy, lle byddwn yn dangos ein mawnogydd – a’r bywyd gwyllt gwych sydd i’w weld yno.

Ond cyn trafod hynny ymhellach – beth yn union yw mawnogydd?

Deunydd tywyll yw mawn sy’n debyg iawn i bridd, ac mae’n datblygu dros gyfnod o filoedd o flynyddoedd. Mae’n ffurfio mewn amodau gwlyb iawn lle na all planhigion marw a deunydd organig ddadelfennu’n llawn. Mae mawnogydd yn dirweddau prydferth, ac maent yn hanfodol bwysig i bobl ac i fyd natur.

Mae yna ddau fath o fawnog: cyforgorsydd, sy’n ffurfio ar iseldiroedd, a gorgorsydd, sy’n ffurfio ar ucheldiroedd. Yng Nghymru, mae yna ardaloedd pwysig o fawnogydd i’w cael, fel y Migneint yn Eryri, Mynyddoedd Cambria a Bannau Brycheiniog. Mae ardaloedd pwysig o fawnogydd i’w cael yn RSPB Ynys-hir and RSPB Mawddach hefyd.

Dewch i gwrdd â Mawn – ffrind Flora a Fauna

Mae mawnogydd yn gynefin pwysig i lu o wahanol adar, planhigion ac anifeiliaid. Mae mwsoglau sffagnwm prin sy’n gallu dal 20 gwaith eu pwysau mewn dŵr yn ffynnu yma, yn ogystal â rhywogaethau o gennau prin. Mae mawnogydd hefyd yn bwysig ar gyfer adar sy’n nythu ar y ddaear fel grugieir coch, grugieir du a boda tinwyn. Mae adar hirgoes fel gylfinirod, cwtiaid aur a dunlin hefyd yn bridio yma, ac mae’n gynefin pwysig i loÿnnod byw a chwilod.

Mae mawnogydd yn bwysig i bobl yn ogystal ag i fywyd gwyllt. Dewch i ni ddechrau gan ystyried newid yn yr hinsawdd. Gan fod ein planed yn cynhesu ar raddfa na welwyd erioed o’r blaen, mae angen i ni leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr. Gall byd natur hefyd ein helpu ni drwy storio carbon yn y tir yn hytrach na’i ryddhau i’r atmosffer.

Yng Nghymru, mae gennym ni dros 90,000 ha o ardaloedd sy’n gyfoethog o ran mawn. Mae hynny’n cyfateb i 112,500 o gaeau pêl-droed. Teg yw dweud bod yr ardaloedd hyn yn asedau pwysig wrth i ni fynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae mawnogydd hefyd yn gallu bod yn ddefnyddiol wrth reoli llifogydd. Yn ei hanfod, sbwng mawr sy’n amsugno dŵr yw mawnog. Pan mae hi’n bwrw (sy’n digwydd yn aml yma yng Nghymru!) mae’r dŵr yn cael ei storio mewn gorgorsydd, ac yna’n cael ei ryddhau yn araf i’r môr. Mae hyn yn golygu bod llif y dŵr yn cael ei reoli, sy’n help mawr wrth geisio atal llifogydd annisgwyl. Mae mawnogydd hefyd yn ffynhonnell dŵr gwerthfawr yn ystod cyfnodau sych yr haf, ac mae hefyd yn ymddwyn fel system hidlo dŵr.

O ystyried pwysigrwydd mawndiroedd i fywyd gwyllt a phobl fel ei gilydd, a’r bygythiad y mae’n ei wynebu o ganlyniad i ddirywiad pellach, mae’r tîm yn Llyn Efyrnwy wedi bod yn brysur yn adfer ac yn gwella ardaloedd o orgorsydd sydd wedi’u difrodi.

Gobaith gyda Hafren Dyfrdwy

Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi gweithio gyda pherchnogion safleoedd Hafren Dyfrdwy i adfer ardaloedd o fawn a ddifrodwyd yn Llyn Efyrnwy. Mae gennym darged uchelgeisiol o adfer dros 600 hectar o fawn wedi’i ddiraddio ac os aiff popeth yn dda, gobeithiwn ehangu hyn i gyfanswm o dros 1,000 hectar.

Dechreuodd y gwaith y gaeaf diwethaf, ac mae wedi bod yn galonogol gweld y cynefin yn ymateb i’r gwaith rydyn ni wedi’i wneud yn barod, gyda phyllau a ffosydd yn llenwi â dŵr a charpedi trwchus o fwsoglau sffagnwm yn diwygio. Rydyn ni nawr yn gobeithio parhau i adfer gorgorsydd wedi’u diraddio dros y pum mlynedd nesaf.

Ymhen ychydig flynyddoedd, rydym yn gobeithio y bydd y dirwedd hon yn dychwelyd i’w hen ogoniant, yn llawn bywyd gwyllt, ac yn cael ei gwarchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Efallai hoffwch hwn hefyd

Gweld popeth

O’r Pridd i’r Enaid: Buddiannau Cudd Byw’n Gynaliadwy

Gwymon: Llanw o Newid i’n Dyfroedd Arfordirol

Gweld popeth

Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu

Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.

Ychwanegu eich llais
Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.