fbpx

DATGANIAD I’R WASG 28/03/23

CLIMATE CYMRU YN CYFLWYNO DEISEB CYNNES GAEAF YMA I LYWODRAETH CYMRU

Bydd Climate Cymru a’i sefydliadau partner yn cyfarfod y tu allan i Swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays am 10.30am ar y 29 o Fawrth i gyflwyno deiseb Cynnes Gaeaf Yma. Casglodd y ddeiseb bron i 4,000 o lofnodwyr o bob rhan o’r Genedl, gan alw ar Lywodraeth Cymru am fwy o gefnogaeth i gartrefi bregus, rhaglen effeithlonrwydd ynni uchelgeisiol, cynyddu ynni adnewyddadwy cost isel, a rhyddhau Cymru o danwydd ffosil.

Dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:
“Dydyn ni ddim eisiau wynebu gaeaf fel yr un rydyn ni newydd ei gael. Ni ddylai unrhywun orfod dewis rhwng gwresogi a bwyta. Mae angen inni helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf. Bydd gwneud ein cartrefi yn fwy ynni-effeithlon yn lleihau biliau ac allyriadau carbon. Mae’r ddeiseb hon yn dangos i Lywodraeth Cymru dyfnder y gefnogaeth ar gyfer atebion gwirioneddol i’r argyfwng costau byw: inswleiddio cartrefi, mwy o ynni adnewyddadwy, rhoi’r gorau i danwydd ffosil, a chymorth i’r rhai mewn mangen.”

Dywedodd Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru:
‘Nid yw teuluoedd ledled Cymru yn wynebu’r dewis rhwng bwyta neu gynhesu; ni allant fforddio gwneud y naill na’r llall. Mae cyfiawnder hinsawdd yn golygu darparu cefnogaeth i’r rhai mwyaf agored i niwed tra’n ein rhyddhau o danwydd ffosil. Mae’r ddeiseb hwn yn bwysig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyrraedd y raddfa a’r cyflymder sydd eu hangen i sicrhau bod pawb yn cadw’n gynnes yn y gaeaf.”

Dywedodd Bethan Sayed, Cydlynydd Ymgyrch Cynnes Gaeaf Yma:
“Mae gennym ni’r atebion ar garreg ein drws i’r argyfyngau sydd yn cydblethu, o gostau byw, i’r argyfwng ynni, i’r argyfwng hinsawdd. Mae angen i ni ddefnyddio ein hadnoddau naturiol ein hunain, a chreu ynni a all wasanaethu’r economi a phobl Cymru yn uniongyrchol. Rhaid inni weld mwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru mewn ynni adnewyddadwy cymunedol, ac rydym yn falch o weld y cyhoeddiad am Ynni
Cymru yn hynny o beth, a’r cwmni ynni newydd a ariennir yn gyhoeddus. Gadewch i ni fuddsoddi, a gadewch i ni symud ymlaen o’r argyfyngau drwy gefnogi twf gwyrdd ar gyfer y dyfodol.’

Ychwanegwch eich llais We use cookies

We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.