Cynorthwyydd Climate Cymru

Cynorthwyydd Climate Cymru
Bydd y cynorthwyydd yn rhan ganolog o ystod eang o weithgareddau Climate Cymru, a bydd yn cefnogi rheolwr Climate Cymru i sicrhau newid gwirioneddol dros yr hinsawdd, natur a chyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’r rôl yn gofyn am sgiliau trefnu sylweddol a’r gallu i gyflawni agweddau gweinyddol Climate Cymru, gan gynnwys rheoli e-byst Climate Cymru.
Rhan greiddiol o’r rôl yw sicrhau bod Climate Cymru yn ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg) yn ein holl gyfathrebu allanol yng Nghymru. Bydd y cynorthwyydd yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg ac yn helpu gyda chyfieithu’r holl allbwn dydd-i-ddydd.
Cyflogir gan: Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA)
Cyflog: £23,059 pro-rata
Telerau cyflogaeth: Cytundeb 12 mis yw hon. 4 ddiwrnod yr wythnos (29.6awr) – gyda’r opsiwn i weithio’n hyblyg ac o bell.
Y dyddiad cau: 12.00pm, 15 Mawrth 2023
Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu
Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.
Ychwanegu eich llais
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.