Ble mae COP 27?
Ble mae COP 27?
Flwyddyn yn ôl roeddem yn dyst i’r DU wrth iddo gynnal COP 26, digwyddiad a oedd yn gasgliad hollbwysig o arweinwyr byd a llunwyr polisi ein hoes. Roedd iddo bwrpas unigol: er mwyn sicrhau mai 1.5 gradd oedd yr uchafswm byddem yn caniatáu i dymheredd y blaned godi.
Sbardunodd y Llysgennad Arbennig John Kerry bethau 100 diwrnod cyn COP 26 yng Ngerddi Kew gyda’i araith World War Zero, a oedd yn alwad drawiadol at wledydd y byd drin y ras i net sero fel argyfwng. Cyfeiriodd ei araith at y rhyfeloedd byd a sut y newidiodd y gwledydd dan sylw eu heconomïau cyfan gyda chefnogaeth ymgyrchoedd gwybodaeth gorfodol y wladwriaeth yn y cyflymder uchaf erioed, er mwyn sicrhau cefnogaeth y cyhoedd i’r rhyfeloedd hyn na allem fforddio eu colli. Roedd y rhethreg hon yn ein hatgoffa na allem fforddio colli’r rhyfel presennol yr ydym yn ei ymladd – sef newid hinsawdd a achosir gan ddyn – a bod gennym y gallu i wneud y newidiadau sydd eu hangen ar y cyflymder angenrheidiol.
Roedd brys ei araith yn adlewyrchu barn gwyddonwyr y byd; yn 2018, penderfynodd Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) mai dim ond 12 mlynedd oedd gennym i sicrhau nad oedd cynnydd yn nhymheredd y byd yn mynd yn uwch na 1.5 gradd er mwyn cyfyngu ar effeithiau gwaethaf newid yn yr hinsawdd i rywbeth y byddai dynoliaeth yn goroesi. Am bob ffracsiwn o’r graddau y cododd tymheredd uwchlaw 1.5, byddai miliynau yn fwy mewn perygl o lifogydd, newyn, tanau a chwymp economaidd.
Ei araith ef oedd yr araith yr oedd angen i’r byd ei chlywed a gweithredu arni. Fodd bynnag, byrhoedlog fu ei effaith ac roedd y cyfan i lawr yr allt oddi yno.
Y grŵp mwyaf a gynrychiolwyd yn y gynhadledd oedd y lobi tanwydd ffosil, rhoddwyd y gorau i’r terfyn 1.5 gradd hanfodol wrth i addewidion a wnaed gan y cynadleddwyr ein gosod ar y trywydd iawn i godi 2.8 gradd, a’r nod o gael cytundeb rhyngwladol i ddileu glo yn raddol erbyn 2050 wedi ei ddileu, gyda’r cynllun i leihau glo fesul cam yn ei le.
Dros y flwyddyn ddiwethaf ers COP 26 rydym wedi gweld sychder byd-eang, tymheredd y byd yn gyson uwch na 50 gradd, prinder bwyd rhyngwladol, cannoedd o filoedd wedi’u dadleoli ac yn marw. Yn y DU, rydym wedi gweld 37 record o dymheredd yn rhanbarthol, ochr yn ochr â naid ddigynsail o 1.6 gradd ers y tymheredd uchaf a gofnodwyd erioed. Bu tanau gwyllt ledled Ewrop gan gynnwys o fewn yr M25. Mae’r rhestr yn hirfaith.
A beth mae’r DU – fel deiliad presennol llywyddiaeth COP – wedi’i wneud mewn ymateb i hyn? Yn hytrach na defnyddio’r argyfwng ynni presennol i sbarduno buddsoddiad enfawr mewn ynni adnewyddadwy ac inswleiddio a fyddai’n dangos ein hymrwymiad i net sero, a gosod esiampl i’r byd, mae’r llywodraeth yn hytrach ar fin darparu cymaint â 100 o drwyddedau olew a nwy newydd ar gyfer y mor y gogledd ac wedi diddymu’r gwaharddiad ar ffracio.
Nid oes fawr o sôn wedi bod yn y cyfryngau na chan ein gwleidyddion am COP 27, a gynhelir yn yr Aifft fis nesaf. Flwyddyn yn ôl roedd hysbysebau y corfforaethau rhyngwladol ym mhopman, eleni nid oes siw na miw. Ni fu unrhyw sôn am uchelgeisiau’r DU, na’n gwaith tuag at net sero. Yn lle hynny, roedd yr unig sylw cyfryngau o amgylch y gynhadledd nesaf yn canolbwyntio ar Liz Truss yn ‘cynghori’ y Brenin Siarl na ddylai fynychu a siarad yn y gynhadledd a nawr penderfyniad y Prif Weinidog Rishi Sunak i aros gartref gan ei fod yn rhy brysur.
Mae’r argyfwng hinsawdd yn argyfwng, ac nid gweithredoedd y rhai sy’n edrych i ennill Rhyfel Byd Sero yw’r rhain. Mae angen defnyddio pob offeryn. Mae angen gweithredu mesurau brys. Mae gwyddonwyr yn sgrechian. Mae pobl yn marw. Bydd ond yn gwaethygu. Mae angen i bobl ddeall a chael eu cynnwys i dderbyn y newidiadau gofynnol.
Mae angen gweithredu ar yr hinsawdd yn awr. Mae angen inni gael ein clywed.
Ymunwch â Gorymdaith Cyfiawnder Hinsawdd ar 12 Tachwedd mewn dinas yn eich ardal chi.
Diogelwch yr hyn rydych yn ei garu
Dywedwch wrth arweinwyr y byd i ddiogelu’r Cymru rydym yn ei charu rhag yr argyfyngau hinsawdd a natur. Anfonwch galon iâ enfawr i’r Senedd i ddangos iddyn nhw yn union pa mor bwysig yw hyn i chi.
Ychwanegu eich llaisWe use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.