08/02/2023
300 o gwmnïau ledled Cymru yn mynnu am fwy o amddiffyniad cyfreithiol i fyd natur
Mae dros 300 o gwmnïau o bob rhan o Gymru wedi arwyddo llythyr agored yn galw ar Brif Weinidog – Mark Drakeford – i gyflwyno Bil Natur Positif a chorff gwarchod amgylcheddol newydd, heb oedi pellach.
Mae’r llythyr agored yn gofyn i’r Prif Weinidog gyflwyno Bil newydd i raglen ddeddfwriaethol 2023-24, i fynd i’r afael â sefyllfa drychinebus Cymru fel “un o’r gwledydd gwaethaf yn y byd am fioamrywiaeth” a chynnwys “ymrwymiad cadarn i adferiad byd natur” efo thargedau cyfreithiol.
Mae’r galwad yma wedi denu cwmnïau o bob sector gymdeithas o bob cornel o Gymru – megis busnesau, sefydliadau, elusennau, prifysgolion, undebau, menter gymdeithasol, ysgolion a grwpiau cymunedol, sy’n dod ar gyfanswm i 304 o lofnodwr hyd yma.
Cymru yw’r unig wlad o hyd yn y DU sydd eto i greu corff annibynnol i oruchwylio’r gwaith o weithredu cyfraith amgylcheddol a sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn bodloni eu rhwymedigaethau.
Dywedodd Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd ei hun yr haf diwethaf fod ‘er bod y mesurau presennol [a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru] yn werthfawr, mae hen angen corff llywodraethu amgylcheddol parhaol’.
Rydym ni i gyd wedi gweld adroddiadau am ein hafonydd llygredig ac ardaloedd gwarchodedig yn methu; Mae targedau pendant i adfer byd natur sy’n gyfreithiol rwymol, yn ogystal â chorff gwarchod annibynnol, yn rhan o’r pecyn sydd ei angen ar Gymru i gymryd y camau cywir i’n cymryd i sefyllfa Natur Bositif erbyn 2030.
Mae un o bob chwe rhywogaeth dan beryg o ddiflannu am byth yng Nghymru, ac mae poblogaethau pryfed ac adar yn parhau i blymio.
Dywedodd David Kilner – Cydlynydd Ymgyrch Positif i Natur:
“Rydym yng nghanol cyfnod hollbwysig i fyd natur – ledled y wlad mae cymunedau a chyrff anllywodraethol yn cychwyn mynd i’r afael ar argyfwng, yn gwneud eu gorau i warchod byd natur, o erddi bach i warchodfeydd natur newydd. Mae dychweliad y Barcud Coch a llwyddiant llawer o raglenni ambell rywogaeth eraill yn rhesymau i fod yn optimistaidd – mae yna amser i adfer bywyd gwyllt, ond ewyllys y llywodraeth sydd ei angen, a rhwymedigaethau cyfreithiol a chorff gwarchod i oruchwylio’r cwbl – Ni all natur aros amdanom.”
Meddai Alun Prichard, Cyfarwyddwr RSPB Cymru
Mae’r Fframwaith Bioamrywiaeth Fyd-eang newydd yn gosod y fframwaith i gymryd y camau angenrheidiol i atal a gwrthdroi colled byd natur erbyn 2030; mae angen targedau cyfreithiol rhwymol arnom a llywodraethu cadarn i ysgogi’r camau yma ac i sicrhau eu bod yn digwydd. Ni all bywyd gwyllt sy’n dibynnu ar ein hafonydd, ein coedwigoedd a’n cefnforoedd aros unrhyw mwy.
Mae Climate Cymru, sy’n cydlynu’r ymgyrch, yn gwahodd pob sefydliad sy’n ymwybodol o natur i gysylltu i ychwanegu eu llais at y llythyr at y Prif Weinidog.
Maen nhw hefyd wedi lansio tudalen ar eu gwefan sy’n ei gwneud hi’n hawdd i’r cyhoedd anfon neges at Mark Drakeford.
Dywedodd Sam Ward – Rheolwr Climate Cymru:
“Nid yw’r sefyllfa bresennol o ddifodiant a dirywiad yn anochel – gellir eu gwrthdroi. Mae dyfodol lle gwelwn adfywiad byd natur yng Nghymru yn gwbl bosibl os bydd Llywodraeth Cymru yn barod i gymryd camau brys ac angenrheidiol. Mae gan bobl bŵer gwirioneddol i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru os ydym yn gweithio mewn ffordd gyfunol a strategol. Rydym wedi ei gwneud yn hawdd i bobl ddangos i wleidyddion eu bod yn poeni am y materion hyn, naill ai fel unigolion neu sefydliadau, ac rydym yn gwahodd pawb i wneud hynny.”
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.