Amy Horne
Rwy'n fyfyriwr sy'n astudio Cadwraeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, yn wreiddiol o Sussex. Rwy'n dysgu arferion cadwraeth a chynaliadwyedd yn y gobaith o wneud y byd yn lle gwell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
View all ambassadors
Ein harweinwyr sydd â’r dylanwad mwyaf ar yr hyn sy’n digwydd i’n planed, felly credaf mai newid hinsawdd ddylai fod yn brif flaenoriaeth i’w datrys. Dylid gwneud y cyhoedd yn fwy ymwybodol o’r difrod a achoswyd a’i effeithiau, yn hytrach na chlywed am ddigwyddiad yn y newyddion, megis gollyngiad olew, yna ei fod yn cael ei anghofio ymhen ychydig wythnosau. Am newid gwirioneddol, rwy’n credu mai corfforaethau mawr a’r llywodraeth ddylai fod yn gyfrifol am ddod yn wyrddach, tra gall cymryd rhan mewn mudiadau amlygu pwysigrwydd gwneud newid. Gan ein bod eisoes wedi gwneud difrod di-droi’n-ôl i’n planed nid oes gennyf lawer o obeithion o ran newid hinsawdd. Rwy’n credu mai’r gorau y gallwn ei gyflawni yw dod yn wyrddach a dysgu sut i addasu i’r newidiadau di-droi’n-ôl hyn yn y ffordd fwyaf cynaliadwy posibl. Y prif beth cadarnhaol a welaf yw bod y cenedlaethau iau yn dod yn fwy ymwybodol o’r difrod i’r amgylchedd ac wedi dechrau gwneud newidiadau i wneud y byd yn lle gwell.
Other ambassadors
View all
Therese Maria

Laura Owen Sanderson

Ryan
Join the movement
If you’re passionate about creating a better future for communities here in Wales and around the world, become part of our campaign and help give the people of Wales a voice in what happens next.
Become an Ambassador
We use cookies to improve your experience and deliver personalized content. By using this website, you agree to our privacy policy.